7 September 2005

Oman Golygus

Medi 7ed 01:14
Mae Oman yn wlad golygus iawn iawn, a'r pobl yn glen. Maent yn cymryd eu hetifeddiaeth o ddifri, ac yn ymdrechu i adeiladu adeiladau sydd yn adlewyrchu eu bod yn gwerthfawrogi eu hetifeddiaeth aú hamgylfchfyd. Trueni yw gweld gwlad sydd wedi gadael i'w busneswyr wneud llanast o'r lle gydag adeiladu rhemp a hyll. Dyma lun o dŵr dŵr Ibri.

Mmmm Blasus...

Medi 7ed 01:06
Blas debyg iawn i laeth gafr.....braf iawn ar ol diwrnod o waith chwysdoman !

8 August 2005

Laura Ashley Bahrain

Awst 8ed 13:06
Siop ffasiynol i ferched yn Sitra.......












7 August 2005

Mwncwns

Awst 7ed 2005
Perl y mysg y gwastraff ! Newid braf o'r amryw o straeon erchyll am ddamweiniau marwol yma yn Bahrain yr wythnos hon - a mae'n amlwg fod y gohebydd wedi mwynhau ei ysgrifennu yn fawr iawn. I'w ddarllen ar ol dau neu dri o rai oer o'r rhewgell.....Yma
Mehefin 2ed 2007
Trueni, t'ydy'r cysylltiad ddim yn gweithio bellach. Stori ydoedd am fwnci wedi denig o sw yn Bahrain a chael ei ddarganfod mewn car. Cyhuddwyd dreifar y car o ddwyn y mwnci ond dadleuodd o mai wedi cuddio yn y cefn oedd y mwnci nid cael ei ddwyn.

31 July 2005

Safonau Moesol a Chobannau

31 Gorffenaf 2005
Nid yw'r gwrthdaro ac adwethio rhwng y dwyrain a'r gorllewin i'w weld yn gliriach nac yma yn y dwyrain canol. Dwi'n eistedd yn Starbucks yn y Marina Mall yn Abu Dhabi. I fyny'r grisiau mae'na siop dillad merched lleol yn gwerthu be faswn innau yn galw yn gobannau crand iawn. I'w gwisgo yn y ty - allan o olwg dynion diarth, mae'r cobannau yn ymestyn o'r garddwn i'r traed, ond mae'r gwyneb a gwallt i'w weld yn glir. Mae nhw'n grand iawn ac yn fri o batrymau o gwmpas y gwddf a garddwn. Yn ffenestr y siop mae'na ffoto mawr o ddynes brydferth yn gwisgo'r dilledyn yma, gwyneb a gwallt ar ddangos. Mae'r merched sydd yn prynu yno yn tueddu i fod yn ferched sy'n o leiaf gwisgo abaya llawn a scarf gwallt, a ran amlaf yn gwisgo veil hefyd, fel mai dim ond y llygaid sydd ar ddangos. Mae rhai hyd yn oed yn gwisgo veil llawn dros y llygaid - defnydd du tenau sy'n gadael rhywfaint o olau drwyddo, mae'n debyg ei fod fel gwisgo sbectol haul. Y peth sy'n dangos yr adwaith rhwng gorllewin a dwyrain yw hyn - os nad ydy hi'n OK i'r merched sy'n siopa ddangos eu gwallt a gwynebau, sut fedr ei fod yn OK i'r ferch yn y llun gael ei dangos felly i bawb sy'n cerdded heibio ?

27 July 2005

Amser Cinio

27 Gorffenaf 2005 15:54
Mae'n rhaid cymryd y smwdd efo'r ruff weithiau........












A dyma'r ruff - coblyn o dwrw ddydd a nos. Llu o Indiaid a Pakistanis a Bangladeshis yn dyrnu gweithio yma am ddwy flynedd ar y tro, ymhob tywydd (mae hi'n 45°C heddiw), am rhyw ddau gan punt y mis. Mae'n rhaid gen i fod y swm yna yn prynu gryn dipyn yn ol un eu gwledydd nhw. Mae'r gwledydd ar yr arfordir dwyreiniol o'r Peninsula Arabaidd i gyd yn adeiladu fel diawled, wedi llwyddiant Dubai. Ugain mlynedd yn ol r'oedd yr holl dir yn y llun yma (ac o dan fy fflat i) dan y dwr - mae nhw'n adenill tir newydd yn y moroedd bas o gwmpas Bahrain er mwyn adeiladu fflatiau a thai, yn cynnwys rhai i'w gwerthu i bobl dramor. Wele www.ossisonline.com

Aggro

Hmm....mae'r milwyr American yma i gyd o dan ordors i lechu yn eu ystafelloedd a pheidio mynd allan....gobeithio di nhw ddim yn gwybod rhywbeth da ni ddim....