26 November 2005

Flickr Anweddus !

Tachwedd 26ed 14:19
T'ydy Etisalat - cwmni telecoms y UAE - ddim yn licio flickr.com ! Yn eu geiriau nhw, t'ydy o ddim yn gyfatebol efo diwylliant a moesau y wlad, wedyn dwi'n cael sgrin rybudd am drio mynd yno.
So dyma lun o fynyddoedd hardd Nant Ffrancon.....

Y Taflbod Cyntaf ?

Tachwedd 26ed 13:53
Dwi'n cicio fy sodlau o gwmpas Abu Dhabi yn disgwyl i fynd i fewn i'r anialwch, a mi benderfynais fanteisio ar gyswllt rhyngrwyd cyflym Starbucks i lenwi'r gliniadur efo gymaint o bodcastiau (daflbodiau ? darlledbodion ?) ag y gallwn ar gyfer y nosweithiau hir - yn bennaf Radio 4, World Service a Mark Kermode yn puo am ffilms. Ond wele !! Cysylltiad newydd arall efo'r hen wlad a diwylliant - Graffiti Cymraeg - onid hwn yw y taflbod Cymraeg cyntaf !?
Mae'n debyg fod Cymry adref yn anymwybodol ar y mwyaf o ba mor anodd yw i gadw cysylltiad efo'r diwylliant Cymraeg unwaith mae rhywun tu allan i Gymru - ond mae'r sefyllfa yn gwella bron yn ddyddiol. Pan symudais i Loegr yn 1987 d'oedd DIM o'r diwylliant Gymraeg i'w gael tu allan i Gymru. Dim S4C o gwbl, a dim Radio Cymru. Mae pob datblygiad newydd fel Graffiti Cymraeg yn dod ag expats fel fi mewn cysylltiad a rhan o'n diwylliant fysa ni byth yn ei brofi ffordd arall.
So pryd ma Radio Cymru am dynnu eu bys allan 'dwch ?

13 November 2005

Crefydd a Llywodraeth

Tachwedd 13ed 15:26
Datblygiadau diddorol yma yn Bahrain dros yr wythnos diwethaf, mewn mater sydd - fel y rhan helaeth o faterion cymdeithasol yn y rhan yma o'r byd - yn ymglymu a chrefydd, gwleidyddiaeth, rhyddid a hawliau dynol. Mae llywodraeth Bahrain yn bwriadu deddfu cyfraith teuluol, sef cyfraith bydol a fydd yn rheoli materion rhwng aelodau teuluol megis ysgariad, cynhaliaeth plant, camdriniaeth yn y cartref ac yn y blaen. Yn draddodiadol mae'r materion yma wedi cael eu penderfynnu mewn llysoedd sharia, sef cyfraith Islamaidd.
Dadl yr ochr o blaid cyfraith bydol yw fod y barnwyr sharia yn afreolaidd ac yn wrth-fenywaidd. Dadl yr ochr o blaid cyfraith sharia yw fod cyfraith bydol yn disodli cyfraith Duw, ac felly yn annerbyniol. Mae'r ddadl wedi stolio rhywfaint ar hyn o bryd gan fod manylion y bwriad gyfraith yn anghlir - digon posib bydd y cyfreithiau yn eistedd y dda wrth ochr cyfreithau sharia - ond mae'na ddigonedd o farn a theimlad cryf ar y ddau ochr.
Mae'na fwy o fanylion ar y pwnc, a lluniau, yn y fan hyn... ac yn y fan hyn...

9 November 2005

Dod A'r Mynydd i'r Moslemiaid

Tachwedd 9ed 17:58
Cyn bo hir mi fydd un o anfanteision byw yn y dwyrain canol - dim sgiio - yn diflannu, a mi fyddan i gyd yn rhuthro undorf i fwynhau newid tymheredd o ryw 35-40°C. Mae'r adeilad ar y lon rhwng Dubai ac Abu Dhabi, ac wedi ei basio yn y car ambell dro mi ddwedaf ei fod yn ymddangos gryn mwy na'r argraff cewch o'r lluniau ar y safwe. Wele www.skidubai.com Wrth gwrs fydd o ddim fel sgiio ar fynydd go iawn, ond d'oes'na ddim llawer o lefydd yn y byd lle cewch sgiio yn y bore (ar eira da, dim slysh na rhew) a ffrio ar lilo yn y pwll drwy'r prynhawn. Mi fydd rhaid i'r hogia lleol wisgo thobes tywyll rhag ofn iddynt fynd ar goll..
Stori BBC yn y fan hyn

2 November 2005

Cwsg y Bodlon

Tachwedd 2ail 03:51
D'oes dim mae Mrs Blewyn yn ei fwynhau gystal a bol llawn o fwyd da, a cŵsg ar ei ôl. Y diwrnod o'r blaen mi gafodd y ddau, pan fuom yn ddigon ffodus i gael bwrdd yn y Bull yn Beaumaris yn reit hwyr, ar ôl diwrnod yn trampio o gwmpas Dulyn. Chwarae teg iddynt mi wnaethon nhw aros yn agored yn hwyr ar ol i ni ffonio o Gaergybi ac erfyn arnynt i'n bwydo, a balch o'n i am hynny achos mae'r Bull yn fwyty odidog, heb ei ail yn yr ardal yn fy marn i. Mae'r prisiau yn reit anaml hefyd, tu allan i ganol Llundain, ond bois bach mae'n rhaid mwynhau rhywbeth sy'n werth ei gael bob hyn a hyn d'oes. Iw cant tek it with iw ia. Erbyn hyn da ni nol yn Bahrain, yn mwynhau Eid - mi geith y Mrs 4 diwrnod o'r gwaith a mi geith y pybs ailagor ar ol mis o syched. :-)