2 November 2005

Cwsg y Bodlon

Tachwedd 2ail 03:51
D'oes dim mae Mrs Blewyn yn ei fwynhau gystal a bol llawn o fwyd da, a cŵsg ar ei ôl. Y diwrnod o'r blaen mi gafodd y ddau, pan fuom yn ddigon ffodus i gael bwrdd yn y Bull yn Beaumaris yn reit hwyr, ar ôl diwrnod yn trampio o gwmpas Dulyn. Chwarae teg iddynt mi wnaethon nhw aros yn agored yn hwyr ar ol i ni ffonio o Gaergybi ac erfyn arnynt i'n bwydo, a balch o'n i am hynny achos mae'r Bull yn fwyty odidog, heb ei ail yn yr ardal yn fy marn i. Mae'r prisiau yn reit anaml hefyd, tu allan i ganol Llundain, ond bois bach mae'n rhaid mwynhau rhywbeth sy'n werth ei gael bob hyn a hyn d'oes. Iw cant tek it with iw ia. Erbyn hyn da ni nol yn Bahrain, yn mwynhau Eid - mi geith y Mrs 4 diwrnod o'r gwaith a mi geith y pybs ailagor ar ol mis o syched. :-)

2 comments:

Rhys Wynne said...

Ha, llun da o Mrs Blewyn. Dwi di bod i'r Bull unwaith neu ddwy hefyd ond ddim ers sbel.

Blewyn said...

Lle da iawn, ym mysg y gorau dwi wedi brofi. Ti wedi trio Molly's yn Caernarfon ?