27 May 2009

Dial Yn Dubai

Mae Dubai yn le hawdd iawn i anghofio eich bod mewn gwlad gwbl wahanol, o ran ei moesau rhywiol, na Prydain. Mae'n edrych fel lle modern, mae merched o'r gorllewin yn gwisgo yno fel petaent ar y promenade yn Llandudno ar ddiwrnod o haf, mae'r clybiau llawn totty golygus a mae bobdim ar gael. T'ydy o ddim yn rhyfedd o gwbl fod yna orllewinwr bob hyn a hyn yn anghofio nad ydyw yn Magaluf neu Ibiza, ac yn ennill ticed adre, do not pass Go do not collect £200.
Achos wahanol iawn sydd wedi dod i'r amlwg y wythnos yma - Prydeiniwr yn defnyddio'r cyfreithiau llym i ddial yn ddifrifol ar ei wraig anffyddlon a'i chariad. Dychmygwch gadael eich ystafell gwesty i ddarganfod y cops tu allan i'r drws ! Tybed sut fedr y dyn aros yn Dubai ym mysg ei gyd-genedlaetholwyr wedi gwneud y fath beth ? A tybed be mae o'n dychmygu ddigwyddith rhyngtho a'r cariad, neu deulu'r cariad, neu deulu y wraig druan, yn y dyfodol - fysa chi'n dial ar rhywun am eich rhoi yn y clinc am flwyddyn am fymryn o slap & tickle diniwed ?
Cofiwch fihafio os ddowch drosodd i'r dwyrain canol bobol ! Nid Abertawe ar nos Sadwrn ydy o, er fod Dubai yn edrych reit debyg ar adegau...
Y stori yn y Times YMA
Ac ar y blog Secret Dubai YMA

4 comments:

Linda said...

Biti gen i dros y wraig ,ac mae'r gosb i'w weld yn un arw iawn iddi. Ond os mai dyna be 'di deddf y wlad ...A fydd y cariad yn mynd i garchar hefyd neu jyst cael ei yrru'n ol i Brydain?
Gyda llaw, croeso'n ol i fyd y Blogio Blewyn :)

Blewyn said...

Na dwi'n meddwl mai r'un driniaeth y cawn nhw - d'oes dim telerau rhwng tylwythau i ddylanwadu ar y dyfarniad (heblaw y telerau rhwng y UAE a'r DU wrth gwrs..) wedyn mi dybiwn mai r'un triniaeth geith y ddau. Wedi deud hynna, lasa hi gael cosb llymach am y godineb, yn ogystal a caru heb fod yn briod.

Diolch Linda !

Blewyn said...

R'un gosb oedd hi - ond wrth gwrs mae'r wraig druan wedi colli ei gwaith a'i hawl i aros. Mi fydd gan y gwr bob hawl (o dan gyfraith Dubai) i gadw ei blant yno..

Blewyn said...

http://www.timesonline.co.uk/tol/news/world/middle_east/article6414584.ece