27 July 2006

Lle Mae Matt ?

Mehefin 29ed 12:58
Gwych

29 June 2006

Manama 90210

Mehefin 29ed 12:58
Newydd ddarganfod hwn sef ffilm deledu American am US Marine a tywysoges Bahraini a redodd ymaith i'r US i briodi. Hilarious. Mynyddoedd mawrion a choed gwyrdd ymhobman !

20 April 2006

Sosialaeth i'r Bos, Rhyddfarchnadaeth i'r Gwas

Ebrill 20ed 08:18
Beth sydd o'i le efo'r erthygl hwn ?

Diddorol fod swyddog HR mewn diwydiant hollol wrth-undeb yn galw am fwy o gydweithio rhwng y cyflogwyr....synnwn os nad yw hyn yn gwbl yn erbyn y gyfraith mewn nifer o wledydd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau a Chanada. Hoffwn glywed ei hymateb petae'r gweithwyr yn dechrau defnyddio "collaborative approach".....

28 February 2006

Athroniaeth AD Newydd ?

Chwefror 28ed 19:07
Oes'na rhywun sy'n gweithio yn AD ('Adnoddau Dynol', h.y. HR ia, neu 'ei-di') all ddweud wrthaf os oes'na athroniaeth newydd yn ymddangos yn y 'professiwn' sy'n deud y dylia chi gynnig llai o arian i bobl da chi'n drio gyflogi na mae nhw'n gael yn barod ?
Mi wastraffodd y Mrs brynhawn cyfan yn rwdlan efo rhywun oedd eisiau ei chyflogi am un chwarter be mai'n ennill yn barod, cyn dweud OK mi fysa fo'n cysidro hanner. Am yr un gwaith yn union. Mi gefais innau gynnig rhyw 10% llai na be dwi'n neud rwan, efo'r posibilrwydd o symud i Qatar (sydd dipyn llymach na Bahrain groesawus) mewn ryw naw mis am 10% yn llai eto. O ia ag ella fysa'r Mrs ddim yn cael gweithio yno. Be sy'n mynd drwy meddyliau'r pobl'ma ? Ydy nhw'n meddwl ein bod yn palu clwydda ?

21 February 2006

Bawd Allan

Chwefror 21ed 19:07
Mae bawd Radio Cymru hanner ffordd allan o'u pen-ol - mae nhw wedi cyflwyno eu podlediad cyntaf ! Wele'r erthygl yma.

Cywiriad

Chwefror 21ed 17:40
Mi sgwennais rai misoedd yn ol na fysa sgiio yn Dubai fel sgiio ar fynydd go iawn - we r'on i'n hollol rong bois. Mae o'n union fel sgiio ar fynydd go iawn ar eira go iawn. Mynydd bychan efallai, a dim gwin poeth yn y caffi ar ganol y rhediad, ond fel sgiio go iawn ym mhob ffordd arall. Teimlad od iawn wedyn ydy tynnu'r dillad cynnes yn yr awyrgylch oer (-5°C) tu fewn i'r adeilad i wisgo shorts a crys-t.
Gallaf argymell skiDubai ar gyfer rhywun sydd yn byw yn Dubai ac eisiau dysgu - mae'n ddelfrydol i hynny - ond wneith mond gadw diddordeb sgiwr/wrag brofiadol am ryw awran.

21 January 2006

Democratiaeth Frenhinol

Ionawr 21ed 11:46
Erthygl ddiddorol am rym y we i hybu trafodaeth gwleidyddol yn y dwyrain canol. Mae hefyd yn rhoi cefndir fras i strwythur gwleidyddol Bahrain. Da ni wedi gweld cryn dipyn o dwrw yma yn ddiweddar, rhywbeth sy'n tueddu o godi o dro i dro achos o'r tynfa rhwng y Sunni a Shia ar yr ynys.

15 January 2006

Dim Damwain Heddiw, Inshallah

Ionawr 15ed 23:43
Stori drist iawn o flog Mr Mahmood, yn goleubwyntio unwaith eto - fel petae angen - y safon warthus o ddreifio a diogelwch drafnidiaeth drwy'r dwyrain canol. Nid ymosodiadau derfysgol yw'r perygl mwyaf yn y gwledydd yma, ond y damweiniau erchyll dyddiol ar y ffyrdd.
Peth od iawn hefyd, i gysidro fod y diwylliant arabiadd yn gwerthfawrogi teulu gymaint, a meibion yn enwedig. Y cliche mae rhywun yn glywed yn y cylchoedd expat yw bod y moslemiaid yn dreifio heb unrhyw barch at ddiogelwch am eu bod yn credu y gwnaiff Allah eu hamddiffyn. Ond lol ydy hyn - mae'r safonau dreifio yn gryn gwell yn Bahrain nag yn Saudi Arabia, ac yn dda iawn yn Oman. Peth diwylliannol ydy o, nid crefyddol.

26 November 2005

Flickr Anweddus !

Tachwedd 26ed 14:19
T'ydy Etisalat - cwmni telecoms y UAE - ddim yn licio flickr.com ! Yn eu geiriau nhw, t'ydy o ddim yn gyfatebol efo diwylliant a moesau y wlad, wedyn dwi'n cael sgrin rybudd am drio mynd yno.
So dyma lun o fynyddoedd hardd Nant Ffrancon.....

Y Taflbod Cyntaf ?

Tachwedd 26ed 13:53
Dwi'n cicio fy sodlau o gwmpas Abu Dhabi yn disgwyl i fynd i fewn i'r anialwch, a mi benderfynais fanteisio ar gyswllt rhyngrwyd cyflym Starbucks i lenwi'r gliniadur efo gymaint o bodcastiau (daflbodiau ? darlledbodion ?) ag y gallwn ar gyfer y nosweithiau hir - yn bennaf Radio 4, World Service a Mark Kermode yn puo am ffilms. Ond wele !! Cysylltiad newydd arall efo'r hen wlad a diwylliant - Graffiti Cymraeg - onid hwn yw y taflbod Cymraeg cyntaf !?
Mae'n debyg fod Cymry adref yn anymwybodol ar y mwyaf o ba mor anodd yw i gadw cysylltiad efo'r diwylliant Cymraeg unwaith mae rhywun tu allan i Gymru - ond mae'r sefyllfa yn gwella bron yn ddyddiol. Pan symudais i Loegr yn 1987 d'oedd DIM o'r diwylliant Gymraeg i'w gael tu allan i Gymru. Dim S4C o gwbl, a dim Radio Cymru. Mae pob datblygiad newydd fel Graffiti Cymraeg yn dod ag expats fel fi mewn cysylltiad a rhan o'n diwylliant fysa ni byth yn ei brofi ffordd arall.
So pryd ma Radio Cymru am dynnu eu bys allan 'dwch ?

13 November 2005

Crefydd a Llywodraeth

Tachwedd 13ed 15:26
Datblygiadau diddorol yma yn Bahrain dros yr wythnos diwethaf, mewn mater sydd - fel y rhan helaeth o faterion cymdeithasol yn y rhan yma o'r byd - yn ymglymu a chrefydd, gwleidyddiaeth, rhyddid a hawliau dynol. Mae llywodraeth Bahrain yn bwriadu deddfu cyfraith teuluol, sef cyfraith bydol a fydd yn rheoli materion rhwng aelodau teuluol megis ysgariad, cynhaliaeth plant, camdriniaeth yn y cartref ac yn y blaen. Yn draddodiadol mae'r materion yma wedi cael eu penderfynnu mewn llysoedd sharia, sef cyfraith Islamaidd.
Dadl yr ochr o blaid cyfraith bydol yw fod y barnwyr sharia yn afreolaidd ac yn wrth-fenywaidd. Dadl yr ochr o blaid cyfraith sharia yw fod cyfraith bydol yn disodli cyfraith Duw, ac felly yn annerbyniol. Mae'r ddadl wedi stolio rhywfaint ar hyn o bryd gan fod manylion y bwriad gyfraith yn anghlir - digon posib bydd y cyfreithiau yn eistedd y dda wrth ochr cyfreithau sharia - ond mae'na ddigonedd o farn a theimlad cryf ar y ddau ochr.
Mae'na fwy o fanylion ar y pwnc, a lluniau, yn y fan hyn... ac yn y fan hyn...

9 November 2005

Dod A'r Mynydd i'r Moslemiaid

Tachwedd 9ed 17:58
Cyn bo hir mi fydd un o anfanteision byw yn y dwyrain canol - dim sgiio - yn diflannu, a mi fyddan i gyd yn rhuthro undorf i fwynhau newid tymheredd o ryw 35-40°C. Mae'r adeilad ar y lon rhwng Dubai ac Abu Dhabi, ac wedi ei basio yn y car ambell dro mi ddwedaf ei fod yn ymddangos gryn mwy na'r argraff cewch o'r lluniau ar y safwe. Wele www.skidubai.com Wrth gwrs fydd o ddim fel sgiio ar fynydd go iawn, ond d'oes'na ddim llawer o lefydd yn y byd lle cewch sgiio yn y bore (ar eira da, dim slysh na rhew) a ffrio ar lilo yn y pwll drwy'r prynhawn. Mi fydd rhaid i'r hogia lleol wisgo thobes tywyll rhag ofn iddynt fynd ar goll..
Stori BBC yn y fan hyn

2 November 2005

Cwsg y Bodlon

Tachwedd 2ail 03:51
D'oes dim mae Mrs Blewyn yn ei fwynhau gystal a bol llawn o fwyd da, a cŵsg ar ei ôl. Y diwrnod o'r blaen mi gafodd y ddau, pan fuom yn ddigon ffodus i gael bwrdd yn y Bull yn Beaumaris yn reit hwyr, ar ôl diwrnod yn trampio o gwmpas Dulyn. Chwarae teg iddynt mi wnaethon nhw aros yn agored yn hwyr ar ol i ni ffonio o Gaergybi ac erfyn arnynt i'n bwydo, a balch o'n i am hynny achos mae'r Bull yn fwyty odidog, heb ei ail yn yr ardal yn fy marn i. Mae'r prisiau yn reit anaml hefyd, tu allan i ganol Llundain, ond bois bach mae'n rhaid mwynhau rhywbeth sy'n werth ei gael bob hyn a hyn d'oes. Iw cant tek it with iw ia. Erbyn hyn da ni nol yn Bahrain, yn mwynhau Eid - mi geith y Mrs 4 diwrnod o'r gwaith a mi geith y pybs ailagor ar ol mis o syched. :-)

1 October 2005

Tois

Hydref 1af 22:35
Asu, mae'n rhaid fy mod yn heneiddio - neu mi faswn wedi sylwi ar y teclyn newydd yma ymhell cyn heddiw...

7 September 2005

Oman Golygus

Medi 7ed 01:14
Mae Oman yn wlad golygus iawn iawn, a'r pobl yn glen. Maent yn cymryd eu hetifeddiaeth o ddifri, ac yn ymdrechu i adeiladu adeiladau sydd yn adlewyrchu eu bod yn gwerthfawrogi eu hetifeddiaeth aú hamgylfchfyd. Trueni yw gweld gwlad sydd wedi gadael i'w busneswyr wneud llanast o'r lle gydag adeiladu rhemp a hyll. Dyma lun o dŵr dŵr Ibri.

Mmmm Blasus...

Medi 7ed 01:06
Blas debyg iawn i laeth gafr.....braf iawn ar ol diwrnod o waith chwysdoman !

8 August 2005

Laura Ashley Bahrain

Awst 8ed 13:06
Siop ffasiynol i ferched yn Sitra.......












7 August 2005

Mwncwns

Awst 7ed 2005
Perl y mysg y gwastraff ! Newid braf o'r amryw o straeon erchyll am ddamweiniau marwol yma yn Bahrain yr wythnos hon - a mae'n amlwg fod y gohebydd wedi mwynhau ei ysgrifennu yn fawr iawn. I'w ddarllen ar ol dau neu dri o rai oer o'r rhewgell.....Yma
Mehefin 2ed 2007
Trueni, t'ydy'r cysylltiad ddim yn gweithio bellach. Stori ydoedd am fwnci wedi denig o sw yn Bahrain a chael ei ddarganfod mewn car. Cyhuddwyd dreifar y car o ddwyn y mwnci ond dadleuodd o mai wedi cuddio yn y cefn oedd y mwnci nid cael ei ddwyn.

31 July 2005

Safonau Moesol a Chobannau

31 Gorffenaf 2005
Nid yw'r gwrthdaro ac adwethio rhwng y dwyrain a'r gorllewin i'w weld yn gliriach nac yma yn y dwyrain canol. Dwi'n eistedd yn Starbucks yn y Marina Mall yn Abu Dhabi. I fyny'r grisiau mae'na siop dillad merched lleol yn gwerthu be faswn innau yn galw yn gobannau crand iawn. I'w gwisgo yn y ty - allan o olwg dynion diarth, mae'r cobannau yn ymestyn o'r garddwn i'r traed, ond mae'r gwyneb a gwallt i'w weld yn glir. Mae nhw'n grand iawn ac yn fri o batrymau o gwmpas y gwddf a garddwn. Yn ffenestr y siop mae'na ffoto mawr o ddynes brydferth yn gwisgo'r dilledyn yma, gwyneb a gwallt ar ddangos. Mae'r merched sydd yn prynu yno yn tueddu i fod yn ferched sy'n o leiaf gwisgo abaya llawn a scarf gwallt, a ran amlaf yn gwisgo veil hefyd, fel mai dim ond y llygaid sydd ar ddangos. Mae rhai hyd yn oed yn gwisgo veil llawn dros y llygaid - defnydd du tenau sy'n gadael rhywfaint o olau drwyddo, mae'n debyg ei fod fel gwisgo sbectol haul. Y peth sy'n dangos yr adwaith rhwng gorllewin a dwyrain yw hyn - os nad ydy hi'n OK i'r merched sy'n siopa ddangos eu gwallt a gwynebau, sut fedr ei fod yn OK i'r ferch yn y llun gael ei dangos felly i bawb sy'n cerdded heibio ?

27 July 2005

Amser Cinio

27 Gorffenaf 2005 15:54
Mae'n rhaid cymryd y smwdd efo'r ruff weithiau........












A dyma'r ruff - coblyn o dwrw ddydd a nos. Llu o Indiaid a Pakistanis a Bangladeshis yn dyrnu gweithio yma am ddwy flynedd ar y tro, ymhob tywydd (mae hi'n 45°C heddiw), am rhyw ddau gan punt y mis. Mae'n rhaid gen i fod y swm yna yn prynu gryn dipyn yn ol un eu gwledydd nhw. Mae'r gwledydd ar yr arfordir dwyreiniol o'r Peninsula Arabaidd i gyd yn adeiladu fel diawled, wedi llwyddiant Dubai. Ugain mlynedd yn ol r'oedd yr holl dir yn y llun yma (ac o dan fy fflat i) dan y dwr - mae nhw'n adenill tir newydd yn y moroedd bas o gwmpas Bahrain er mwyn adeiladu fflatiau a thai, yn cynnwys rhai i'w gwerthu i bobl dramor. Wele www.ossisonline.com

Aggro

Hmm....mae'r milwyr American yma i gyd o dan ordors i lechu yn eu ystafelloedd a pheidio mynd allan....gobeithio di nhw ddim yn gwybod rhywbeth da ni ddim....