21 May 2013
10 December 2011
Y Mwffti a Wfftiodd
Ein ty Opera newydd :-), a roddwyd i'r genedl gan y Sultan allan o'i gronfeydd bersonol yn ol y deud yma yn Muscat. Hwn ydy'r adeilad gyntaf yn Oman yn arbennig ar gyfer y celfyddydau berfformio (heb gyfri'r band Canadian sy'n chwarae yn y Safari Bar de). Mae'r adeilad hon yn rhagflaenu oes newydd gelf a cherddoriaeth ar y Penrhyn Arabiadd, ag ers iddi agor mymryn fisoedd yn ol mae nhw wedi bod yn gwneud i fyny am y syched a fu.
Wele fan hyn am y rhaglen.
Ond....t'ydy pawb ddim yn hapus. Mae'r Mwffti (debyg i Archiesgob) wedi deud fod rhaid i Foslemiaid aros oddiwrth y lle, gan nad yw cerddoriaeth na dawns yn ganiataol yn Islam. Mae'na drafodaeth dyrys a brwd wrthi am hyn, efo rhai wedi wfftio efo'r Mwffti a lleil wedi wfftio efo'r ty Opera. T'ydy hi ddim yn glir os ydy'r Mwffti wedi wfftio, achos dim ond ateb cwestiwn diniwed ar fater crefyddol oedd o, a deud y gwir d'oedd ganddo ddim lle wiglo ar y mater (petae o ddim wedi wfftio efo'r ty Opera) achos mae Islam yn reit glir am hyn. Mae'na ddigonedd o flogwyr gwell na fi yn trafod y pwnc yn frwd yn y llefyd yma
Dhofari Gucci
Y Syrffiwr Linoliwm
Fforwm Oman
Tawaeth, dwi'n mwy o ddyn Acca Dacca na Cosi Fan Tutte, ond dwi'n gobeithio'n arw y gwna nhw ddechrau defnyddio'r lle fel theatr hefyd..
Posted by Blewyn at 10:30 5 comments
20 June 2010
Vroom Vroom Yallah !
C : Bedi'r gwahaniaeth rhwng gwerthwr tai yn Dubai a cholomen ?
Posted by Blewyn at 23:28 3 comments
14 April 2010
Man Bwyta Oman #1 - Bwyty Ar Y Traeth, Y Chedi
Posted by Blewyn at 17:03 2 comments
21 March 2010
27 November 2009
3 October 2009
Caeth I Arfer ?
Posted by Blewyn at 00:30 4 comments
27 May 2009
Dial Yn Dubai
Posted by Blewyn at 21:50 4 comments
10 November 2008
Digryndod
Posted by Blewyn at 11:42 2 comments
30 September 2008
Bron Wadi Bani
- Paid a mynd i le nofio poblogaidd ar y penwythnos os na ti'n barod i'r missus orfod nofio o flaen cynulleidfa o gant o hogiau ifanc yn rhythu fel llouau (oedd, mi oedd hi wedi gorchuddio)
- Os ti'n gyrru dy injan yn galed yn y ger 4x4 isel (fel pan ti'n dringo llwybr mynydd serth iawn, er enghraifft) a ti'n clywed gwich uchel yn dod o'r cefn, stopia dy gar. Os di'r gwich dal yna, doro dy ben wrth y tanc petrol a gwranda. Os ti'n clwad twrw berwi, stopia'r injan a gwna'n siwr fod pawb arall (Ynh enwedig y smocars) wynt-i-fyny o'r car. Disgwylia i'r petrol orffen berwi, agora'r cap (yn ofalus iawn, a paid a sefyll o'i flaen rhag i ti gael trochfa petrol pan saethith y cap allan achos o'r pwysedd yn y tanc) a'r drysau i gael gwared o'r nwy. Gofynna i dy hun os oes'na ddigon o wynt iddo fod wedi clirio'r nwy cyn i ti ail-ddechrau'r car
- Paid a gor-yrru 4x4 yn y ger isel.
- Paid a gyrru 4x4 cocsho (Ford Explorer), yn enwedig un cachu rwtch sydd yn gwario mwy o amser yn y garej nag allan (fy un i)
Posted by Blewyn at 19:46 1 comments
18 June 2007
Ffigyrau Cylchdro #1
Posted by Blewyn at 15:52 0 comments
5 June 2007
Rhedeg Rhag Y Tornedos...
Posted by Blewyn at 11:45 3 comments
31 May 2007
Ceunantu ?
G 23°12'28.27" D 57°23'41.55"
Posted by Blewyn at 02:49 0 comments
26 May 2007
Pry Cop
Dwi'm yn siwr os ydy ei ymddygiad yn arferol....fel arfer maent yn ofnus o olau ond roedd hwn i'w weld yn reit ddryslyd....bosib ei fod wedi buta darn o chicken curry o'r bins ag ei fod yn troi arno...
Dyma lun agos o'r cradur.
Dyma fo dudalen y diawl hyll ar wikipedia.
Posted by Blewyn at 04:29 4 comments
6 March 2007
Cambrian Clebran
Posted by Blewyn at 14:31 1 comments
4 March 2007
Cludda
Posted by Blewyn at 15:56 0 comments
Pwniad
Posted by Blewyn at 14:32 0 comments
23 November 2006
Newyddion Jadeed
Posted by Blewyn at 22:56 3 comments
27 July 2006
29 June 2006
Manama 90210
Newydd ddarganfod hwn sef ffilm deledu American am US Marine a tywysoges Bahraini a redodd ymaith i'r US i briodi. Hilarious. Mynyddoedd mawrion a choed gwyrdd ymhobman !
Posted by Blewyn at 13:59 0 comments
20 April 2006
Sosialaeth i'r Bos, Rhyddfarchnadaeth i'r Gwas
Beth sydd o'i le efo'r erthygl hwn ?
Diddorol fod swyddog HR mewn diwydiant hollol wrth-undeb yn galw am fwy o gydweithio rhwng y cyflogwyr....synnwn os nad yw hyn yn gwbl yn erbyn y gyfraith mewn nifer o wledydd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau a Chanada. Hoffwn glywed ei hymateb petae'r gweithwyr yn dechrau defnyddio "collaborative approach".....
Posted by Blewyn at 09:12 0 comments
28 February 2006
Athroniaeth AD Newydd ?
Oes'na rhywun sy'n gweithio yn AD ('Adnoddau Dynol', h.y. HR ia, neu 'ei-di') all ddweud wrthaf os oes'na athroniaeth newydd yn ymddangos yn y 'professiwn' sy'n deud y dylia chi gynnig llai o arian i bobl da chi'n drio gyflogi na mae nhw'n gael yn barod ?
Posted by Blewyn at 00:46 1 comments
21 February 2006
Bawd Allan
Mae bawd Radio Cymru hanner ffordd allan o'u pen-ol - mae nhw wedi cyflwyno eu podlediad cyntaf ! Wele'r erthygl yma.
Posted by Blewyn at 18:56 0 comments
Cywiriad
Mi sgwennais rai misoedd yn ol na fysa sgiio yn Dubai fel sgiio ar fynydd go iawn - we r'on i'n hollol rong bois. Mae o'n union fel sgiio ar fynydd go iawn ar eira go iawn. Mynydd bychan efallai, a dim gwin poeth yn y caffi ar ganol y rhediad, ond fel sgiio go iawn ym mhob ffordd arall. Teimlad od iawn wedyn ydy tynnu'r dillad cynnes yn yr awyrgylch oer (-5°C) tu fewn i'r adeilad i wisgo shorts a crys-t.
Posted by Blewyn at 18:38 0 comments
21 January 2006
Democratiaeth Frenhinol
Erthygl ddiddorol am rym y we i hybu trafodaeth gwleidyddol yn y dwyrain canol. Mae hefyd yn rhoi cefndir fras i strwythur gwleidyddol Bahrain. Da ni wedi gweld cryn dipyn o dwrw yma yn ddiweddar, rhywbeth sy'n tueddu o godi o dro i dro achos o'r tynfa rhwng y Sunni a Shia ar yr ynys.
Posted by Blewyn at 12:45 0 comments
15 January 2006
Dim Damwain Heddiw, Inshallah
Stori drist iawn o flog Mr Mahmood, yn goleubwyntio unwaith eto - fel petae angen - y safon warthus o ddreifio a diogelwch drafnidiaeth drwy'r dwyrain canol. Nid ymosodiadau derfysgol yw'r perygl mwyaf yn y gwledydd yma, ond y damweiniau erchyll dyddiol ar y ffyrdd.
Posted by Blewyn at 23:42 0 comments
26 November 2005
Flickr Anweddus !
T'ydy Etisalat - cwmni telecoms y UAE - ddim yn licio flickr.com ! Yn eu geiriau nhw, t'ydy o ddim yn gyfatebol efo diwylliant a moesau y wlad, wedyn dwi'n cael sgrin rybudd am drio mynd yno.
Posted by Blewyn at 14:14 1 comments
Y Taflbod Cyntaf ?
Dwi'n cicio fy sodlau o gwmpas Abu Dhabi yn disgwyl i fynd i fewn i'r anialwch, a mi benderfynais fanteisio ar gyswllt rhyngrwyd cyflym Starbucks i lenwi'r gliniadur efo gymaint o bodcastiau (daflbodiau ? darlledbodion ?) ag y gallwn ar gyfer y nosweithiau hir - yn bennaf Radio 4, World Service a Mark Kermode yn puo am ffilms. Ond wele !! Cysylltiad newydd arall efo'r hen wlad a diwylliant - Graffiti Cymraeg - onid hwn yw y taflbod Cymraeg cyntaf !?
Posted by Blewyn at 13:52 2 comments
13 November 2005
Crefydd a Llywodraeth
Datblygiadau diddorol yma yn Bahrain dros yr wythnos diwethaf, mewn mater sydd - fel y rhan helaeth o faterion cymdeithasol yn y rhan yma o'r byd - yn ymglymu a chrefydd, gwleidyddiaeth, rhyddid a hawliau dynol. Mae llywodraeth Bahrain yn bwriadu deddfu cyfraith teuluol, sef cyfraith bydol a fydd yn rheoli materion rhwng aelodau teuluol megis ysgariad, cynhaliaeth plant, camdriniaeth yn y cartref ac yn y blaen. Yn draddodiadol mae'r materion yma wedi cael eu penderfynnu mewn llysoedd sharia, sef cyfraith Islamaidd.
Posted by Blewyn at 16:24 0 comments
9 November 2005
Dod A'r Mynydd i'r Moslemiaid
Cyn bo hir mi fydd un o anfanteision byw yn y dwyrain canol - dim sgiio - yn diflannu, a mi fyddan i gyd yn rhuthro undorf i fwynhau newid tymheredd o ryw 35-40°C. Mae'r adeilad ar y lon rhwng Dubai ac Abu Dhabi, ac wedi ei basio yn y car ambell dro mi ddwedaf ei fod yn ymddangos gryn mwy na'r argraff cewch o'r lluniau ar y safwe. Wele www.skidubai.com Wrth gwrs fydd o ddim fel sgiio ar fynydd go iawn, ond d'oes'na ddim llawer o lefydd yn y byd lle cewch sgiio yn y bore (ar eira da, dim slysh na rhew) a ffrio ar lilo yn y pwll drwy'r prynhawn. Mi fydd rhaid i'r hogia lleol wisgo thobes tywyll rhag ofn iddynt fynd ar goll..
Posted by Blewyn at 18:56 0 comments
2 November 2005
Cwsg y Bodlon
D'oes dim mae Mrs Blewyn yn ei fwynhau gystal a bol llawn o fwyd da, a cŵsg ar ei ôl. Y diwrnod o'r blaen mi gafodd y ddau, pan fuom yn ddigon ffodus i gael bwrdd yn y Bull yn Beaumaris yn reit hwyr, ar ôl diwrnod yn trampio o gwmpas Dulyn. Chwarae teg iddynt mi wnaethon nhw aros yn agored yn hwyr ar ol i ni ffonio o Gaergybi ac erfyn arnynt i'n bwydo, a balch o'n i am hynny achos mae'r Bull yn fwyty odidog, heb ei ail yn yr ardal yn fy marn i. Mae'r prisiau yn reit anaml hefyd, tu allan i ganol Llundain, ond bois bach mae'n rhaid mwynhau rhywbeth sy'n werth ei gael bob hyn a hyn d'oes. Iw cant tek it with iw ia. Erbyn hyn da ni nol yn Bahrain, yn mwynhau Eid - mi geith y Mrs 4 diwrnod o'r gwaith a mi geith y pybs ailagor ar ol mis o syched. :-)
Posted by Blewyn at 04:46 2 comments
1 October 2005
Tois
Hydref 1af 22:35
Asu, mae'n rhaid fy mod yn heneiddio - neu mi faswn wedi sylwi ar y teclyn newydd yma ymhell cyn heddiw...
Posted by Blewyn at 22:30 0 comments
7 September 2005
Oman Golygus
Mae Oman yn wlad golygus iawn iawn, a'r pobl yn glen. Maent yn cymryd eu hetifeddiaeth o ddifri, ac yn ymdrechu i adeiladu adeiladau sydd yn adlewyrchu eu bod yn gwerthfawrogi eu hetifeddiaeth aú hamgylfchfyd. Trueni yw gweld gwlad sydd wedi gadael i'w busneswyr wneud llanast o'r lle gydag adeiladu rhemp a hyll. Dyma lun o dŵr dŵr Ibri.
Posted by Blewyn at 02:13 2 comments
8 August 2005
7 August 2005
Mwncwns
Awst 7ed 2005
Perl y mysg y gwastraff ! Newid braf o'r amryw o straeon erchyll am ddamweiniau marwol yma yn Bahrain yr wythnos hon - a mae'n amlwg fod y gohebydd wedi mwynhau ei ysgrifennu yn fawr iawn. I'w ddarllen ar ol dau neu dri o rai oer o'r rhewgell.....Yma
Mehefin 2ed 2007
Trueni, t'ydy'r cysylltiad ddim yn gweithio bellach. Stori ydoedd am fwnci wedi denig o sw yn Bahrain a chael ei ddarganfod mewn car. Cyhuddwyd dreifar y car o ddwyn y mwnci ond dadleuodd o mai wedi cuddio yn y cefn oedd y mwnci nid cael ei ddwyn.
Posted by Blewyn at 16:22 0 comments
31 July 2005
Safonau Moesol a Chobannau
Nid yw'r gwrthdaro ac adwethio rhwng y dwyrain a'r gorllewin i'w weld yn gliriach nac yma yn y dwyrain canol. Dwi'n eistedd yn Starbucks yn y Marina Mall yn Abu Dhabi. I fyny'r grisiau mae'na siop dillad merched lleol yn gwerthu be faswn innau yn galw yn gobannau crand iawn. I'w gwisgo yn y ty - allan o olwg dynion diarth, mae'r cobannau yn ymestyn o'r garddwn i'r traed, ond mae'r gwyneb a gwallt i'w weld yn glir. Mae nhw'n grand iawn ac yn fri o batrymau o gwmpas y gwddf a garddwn. Yn ffenestr y siop mae'na ffoto mawr o ddynes brydferth yn gwisgo'r dilledyn yma, gwyneb a gwallt ar ddangos. Mae'r merched sydd yn prynu yno yn tueddu i fod yn ferched sy'n o leiaf gwisgo abaya llawn a scarf gwallt, a ran amlaf yn gwisgo veil hefyd, fel mai dim ond y llygaid sydd ar ddangos. Mae rhai hyd yn oed yn gwisgo veil llawn dros y llygaid - defnydd du tenau sy'n gadael rhywfaint o olau drwyddo, mae'n debyg ei fod fel gwisgo sbectol haul. Y peth sy'n dangos yr adwaith rhwng gorllewin a dwyrain yw hyn - os nad ydy hi'n OK i'r merched sy'n siopa ddangos eu gwallt a gwynebau, sut fedr ei fod yn OK i'r ferch yn y llun gael ei dangos felly i bawb sy'n cerdded heibio ?
Posted by Blewyn at 18:41 2 comments
27 July 2005
Amser Cinio
Mae'n rhaid cymryd y smwdd efo'r ruff weithiau........
A dyma'r ruff - coblyn o dwrw ddydd a nos. Llu o Indiaid a Pakistanis a Bangladeshis yn dyrnu gweithio yma am ddwy flynedd ar y tro, ymhob tywydd (mae hi'n 45°C heddiw), am rhyw ddau gan punt y mis. Mae'n rhaid gen i fod y swm yna yn prynu gryn dipyn yn ol un eu gwledydd nhw. Mae'r gwledydd ar yr arfordir dwyreiniol o'r Peninsula Arabaidd i gyd yn adeiladu fel diawled, wedi llwyddiant Dubai. Ugain mlynedd yn ol r'oedd yr holl dir yn y llun yma (ac o dan fy fflat i) dan y dwr - mae nhw'n adenill tir newydd yn y moroedd bas o gwmpas Bahrain er mwyn adeiladu fflatiau a thai, yn cynnwys rhai i'w gwerthu i bobl dramor. Wele www.ossisonline.com
Posted by Blewyn at 16:21 0 comments
Aggro
Hmm....mae'r milwyr American yma i gyd o dan ordors i lechu yn eu ystafelloedd a pheidio mynd allan....gobeithio di nhw ddim yn gwybod rhywbeth da ni ddim....
Posted by Blewyn at 11:01 3 comments