3 October 2009

Caeth I Arfer ?

Postiad diddorol iawn ar bwnc caethwasanaeth yn Oman ar flog Reality In Oman. Mae caethwasanaeth yn rhywbeth sydd wedi parahau tan ym gymharol ddiweddar yng ngwledydd y dwyrain canol, gyda Saudi Arabia yn ei roi ar herw yn 1962 ag yma yn Oman yn 1970. Dim ond 39 mlynedd yn ol r'oedd caethwasanaeth yn arferiad gwbl cyffredin yma - sy'n golygu fod nifer fawr o oedolion Omani heddiw wedi eu magu mewn tai efo caethweision - nid gweision tlawd ar dal bychan, na gweision o wledydd eraill wedi eu rhwymo i ddyledion mawr a tal isel (arfer cyffredin iawn yma hyd heddiw), ond gweision gwbl gaeth, yn berchen i rhywun ! Mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi synnu fod yr arfer yma wedi para tan mor ddiweddar yma y Oman.

Yn ddiweddar mae Bahrain a'r UAE wedi gwneud symudiadau tuag at ehangu rhyddid gweithwyr sydd wedi eu rhwymo i un sponsor - fel pawb sydd yma ar visa gwaith, fel fi - felly mae pethau wedi symud yn bell iawn ers y chwedegau, ag yn parhau i newid alhamdulillah.