Dim Bris Heddiw
Masalaama a G'day ! Dyma atgyfodi'r blog cysglyd yma ryw 11,000km i ffwrdd o'r post blaenorol, ar ol rhywbeth o newid byd :-) Mate. Yeh, that'll be right. Too easy !
Wedi gadael Arabia boeth ers 10 mis wan, ag yn mwynhau yn arw bod yn ol mewn gwlad lle mae rhywun yn gallu gwisgo cot Duffel heb chwysu i farwolaeth o fewn hanner awr. Yma yn Queensland, mae'r tywydd a tymheredd y brafiaf dwi wedi weld erioed - ddim cweit mor boeth ag Oman yn y haf a ddim y agos at fod mor oer a Chymru yn y gaeaf. Dwi'n gweithio heddiw allan yn y bush rhyw ddwyawr i'r gogledd o Roma. Mae Roma chwech awr i'r gorllewin o Brisbane, a nid yn unig yw hyn dal i fod o fewn Queensland, t'ydy o ddim hyd yn oed yng Ngorllewin Queensland. Mae'r wlad'ma yn FAWR. Da ni yma ers 10 mis a heb grafu'r arwyneb hyd yn oed yn Brisbane heb son am weddill y stad neu'r wlad. Ond dwi wedi taro Kangaroo efo'r ute a dwi wedi cyfarfod hogan o'r enw Kylie, wedyn mae hynna'n rhywbeth.