14 April 2010

Man Bwyta Oman #1 - Bwyty Ar Y Traeth, Y Chedi

O'r diwedd, wedi ffendio bwyty yn Muscat sy'n gwir haeddu'r disgrifiad "o safon". Nid fod yna ddiffyg o lefydd bwyta mwynhaol iawn yn y ddinas, ond hwn ydy'r cyntaf i mi ffendio sy'n haeddu cwsmeriaeth ar noson ddathlu arbennig go iawn, yn hytrach na dim ond mynd am fwyd.

Y Bwyty ar y Traeth yng ngwesty's Chedi, yn ardal Ghubra.

Mae'n rhaid cerdded drwy'r gwesty a'i erddi i gyrraedd y lan mor. Mae hwn yn bleser ynddo ei hun, gyda chrandrwydd distaw y gerddi, y pwll gyda'i gabanau gorffwys a'r goleadau isel ar y llwybr yn ymlacio fy nhymer yn braf cyn cyrraedd y traeth. R'oeddwn yn barod am aperitif oer i leddfu'r tymheredd arabaidd a'r lleithder canolig yn dod o ddyfroedd bas y gulf. Mi ddewisiwyd wydr o Prosecco i ddechrau, a'r peth gorau amdano oedd y ffaith ei fod mor oer. Ddim byd o'i le efo fo, ond dim byd yn neilltuol amdano chwaith - a mi fyddaf yn edrych am rywbeth 'pyn bach yn arbennig tro nesa, gan gysidro pris y Prosecco (prisiau ar waelod y post). Tawaeth, mi dderbyniom y gwydrau yn ddiolchgar iawn, a mi gafom fwrdd ar flaen y dec agosaf at y traeth.

R'oeddan ni wedi bwcio bwrdd ar gyfer nos Sul (noson wythnos yma yn Oman) ers nos Iau..ond pan gyrrhaeddom d'oedd'na ddim bwciad wedi ei wneud. D'ydy hyn ddim yn anarferol yn y dwyrain canol, wedyn gwnewch yn siwr i ffonio ymlaen i gadarnhau y bwciad rhag ofn i chi ffendio eich hun heb le ag yn gwnebu llog tacsi drudfawr i fwyty arall.

Dwi'n falch fod y ffasiwn am bob mathau o ewynnau a mousse ar ein platiau wedi pasio erbyn hyn. Dwi'm yn 'supertaster' wedyn dwi'n deall fod rhai yn eu mwynhau, ond d'oeddan nhw ddim ond past heb flas i mi. Dwi llawn mor falch bo'r ymarfer o roi glasiad bychan o gawl i llnau y ceg yn parhau. R'oedd y cawl tuna ffres yn ddechreuad braf iawn i'r noson, ag yn lleddfu'r chwant bwyd mymryn bach. R'oedd hyn yn rhoi amser i'r gegin i goginio'r cwrs cyntaf heb ruthr, a ninnau yn cael amswer i ddarllen y dweislen gwin maith.

Mi ddechreuwyd efo Sgolop Tempura a Misglen (Mussels) wedi eu stemio mewn hufen chenin blanc. R'oedd y ddau yn berffaith, y misglenion yn fawr, brau a heb grit. Efo sgwp o'r hufen yn syth allan o'r gragen, r'oedd y blas yn hyfryd - yn ddigon pysgodig i fod yn flasus ond ddim yn blasu fel pysgodyn olewog o gwbl. R'oedd y sgolop yn frau a'r cytew (batter) yn gras, ag eto ddim yn blasu'n rhy olewog.

Wedi mwynhau y cwrs cyntaf mi ddewisiom botel o chardonnay Alamos 2008, o'r Ariannin. Mi gysidrais beidio ei brynu, gan fod arweinwyr y wlad yn trio dwyn Ynysoedd y Falkland, ond mae eisiau cadw pen call am y pethau'ma a r'oeddwn yn falch pan flasais y gwin. Yn union y math o win dwi'n licio - corff hanner-llawn, crwn, melyster canolig a blas mel. R'oedd o'n ddrud - 26R - ond fel treat arbennig d'oedd o ddim yn siomi. Mor aml mae potel ddrud mewn bwyty yn blasu mwy neu lai fel potel pumpunt o'r offi, ond nid y tro yma. Fel arfer dwi'n yfed Malambo -cymysgedd chardonnay / chenin blanc o'r Ariannin - am tua hanner y pris, ond r'oedd yr Alamos yn werth y gwahaniaeth.

Dewisiom y fillet o Rouget (snapper coch lleol) a Dover Sole fel ail gwrs, a r'oedd y ddau yn hyfryd. Toddi yn y ceg - mae rhai o fwytai drud Muscat dan yr argraff fo slapio rhyw-rhyw bysgodyn ar grill a'i alw'n Hammour (7R+) neu 'fish' (7R-) yn ddigon da, ond nid yn y Chedi. Y pysgodyn gorau gefais yn y dwyrain canol, a mae hynna'n cynnwys Pier Chic yn Dubai, sydd yn ddychrynllyd o ddrud.

Mi gawsom runner beans blasus iawn efo darnau bychain o gnau ynddynt, a 'Paris Mash', sef tatws mash efo olew truffle. R'oedd y mash yn blasu fel mash cyffredin, bach yn sych, a ddim cystal a'r mash sydd ar gael yn Darcy's Cafe yn Shatti am chwarter y pris.

Dwi'm yn cael denig o nghwt i lefydd fel hyn yn aml wedyn mi fues yn farus a chael Parfait Gwiniolen (Maple) i orffen, efo hufen ia bendigedig. Mi adewais y gwesty efo bol 3mis a'r bil isod, sy'n fy ngweld yn ol yn fy nghwt am fwy o amser na hoffwn gyfaddef, i'w gyfiawnhau.

Prosecco - 5.5R £9.18 y gwydr
Sgolop Tempura 9.5R £15.86
Misglen wedi eu Stemio 8.0R £13.36
Rouget Fillet 13.5R £22.54
Dover Sole 16.5R £27.55
Ffa a Paris Mash 4.5R £7.51 yr un
Parfait Gwiniolen 5.5R £9.18
Dwr 'Voss' 2.9R £4.84

Mi ddaeth y bil i 120R, sef £200.40 cyfradd heddiw - mae gwestai 5* Oman yn codi 17.5% treth twristiaid.
Mi fysa'r ddau ail gwrs yn unig, efo glasiad o win yr un, wedi dod i 35R, sef £68.97