28 February 2006

Athroniaeth AD Newydd ?

Chwefror 28ed 19:07
Oes'na rhywun sy'n gweithio yn AD ('Adnoddau Dynol', h.y. HR ia, neu 'ei-di') all ddweud wrthaf os oes'na athroniaeth newydd yn ymddangos yn y 'professiwn' sy'n deud y dylia chi gynnig llai o arian i bobl da chi'n drio gyflogi na mae nhw'n gael yn barod ?
Mi wastraffodd y Mrs brynhawn cyfan yn rwdlan efo rhywun oedd eisiau ei chyflogi am un chwarter be mai'n ennill yn barod, cyn dweud OK mi fysa fo'n cysidro hanner. Am yr un gwaith yn union. Mi gefais innau gynnig rhyw 10% llai na be dwi'n neud rwan, efo'r posibilrwydd o symud i Qatar (sydd dipyn llymach na Bahrain groesawus) mewn ryw naw mis am 10% yn llai eto. O ia ag ella fysa'r Mrs ddim yn cael gweithio yno. Be sy'n mynd drwy meddyliau'r pobl'ma ? Ydy nhw'n meddwl ein bod yn palu clwydda ?

21 February 2006

Bawd Allan

Chwefror 21ed 19:07
Mae bawd Radio Cymru hanner ffordd allan o'u pen-ol - mae nhw wedi cyflwyno eu podlediad cyntaf ! Wele'r erthygl yma.

Cywiriad

Chwefror 21ed 17:40
Mi sgwennais rai misoedd yn ol na fysa sgiio yn Dubai fel sgiio ar fynydd go iawn - we r'on i'n hollol rong bois. Mae o'n union fel sgiio ar fynydd go iawn ar eira go iawn. Mynydd bychan efallai, a dim gwin poeth yn y caffi ar ganol y rhediad, ond fel sgiio go iawn ym mhob ffordd arall. Teimlad od iawn wedyn ydy tynnu'r dillad cynnes yn yr awyrgylch oer (-5°C) tu fewn i'r adeilad i wisgo shorts a crys-t.
Gallaf argymell skiDubai ar gyfer rhywun sydd yn byw yn Dubai ac eisiau dysgu - mae'n ddelfrydol i hynny - ond wneith mond gadw diddordeb sgiwr/wrag brofiadol am ryw awran.