21 May 2013

Dim Bris Heddiw

Masalaama a G'day ! Dyma atgyfodi'r blog cysglyd yma ryw 11,000km i ffwrdd o'r post blaenorol, ar ol rhywbeth o newid byd :-) Mate.  Yeh, that'll be right.  Too easy !

Wedi gadael Arabia boeth ers 10 mis wan, ag yn mwynhau yn arw bod yn ol mewn gwlad lle mae rhywun yn gallu gwisgo cot Duffel heb chwysu i farwolaeth o fewn hanner awr.  Yma yn Queensland, mae'r tywydd a tymheredd y brafiaf dwi wedi weld erioed - ddim cweit mor boeth ag Oman yn y haf a ddim y agos at fod mor oer a Chymru yn y gaeaf.  Dwi'n gweithio heddiw allan yn y bush rhyw ddwyawr i'r gogledd o Roma.  Mae Roma chwech awr i'r gorllewin o Brisbane, a nid yn unig yw hyn dal i fod o fewn Queensland, t'ydy o ddim hyd yn oed yng Ngorllewin Queensland.  Mae'r wlad'ma yn FAWR.  Da ni yma ers 10 mis a heb grafu'r arwyneb hyd yn oed yn Brisbane heb son am weddill y stad neu'r wlad.  Ond dwi wedi taro Kangaroo efo'r ute a dwi wedi cyfarfod hogan o'r enw Kylie, wedyn mae hynna'n rhywbeth.

10 December 2011

Y Mwffti a Wfftiodd

Sbiwch crand




Ein ty Opera newydd :-), a roddwyd i'r genedl gan y Sultan allan o'i gronfeydd bersonol yn ol y deud yma yn Muscat.  Hwn ydy'r adeilad gyntaf yn Oman yn arbennig ar gyfer y celfyddydau berfformio (heb gyfri'r band Canadian sy'n chwarae yn y Safari Bar de).  Mae'r adeilad hon yn rhagflaenu oes newydd gelf a cherddoriaeth ar y Penrhyn Arabiadd, ag ers iddi agor mymryn fisoedd yn ol mae nhw wedi bod yn gwneud i fyny am y syched a fu.


Wele fan hyn am y rhaglen.


Ond....t'ydy pawb ddim yn hapus.  Mae'r Mwffti (debyg i Archiesgob) wedi deud fod rhaid i Foslemiaid aros oddiwrth y lle, gan nad yw cerddoriaeth na dawns yn ganiataol yn Islam.  Mae'na drafodaeth dyrys a brwd wrthi am hyn, efo rhai wedi wfftio efo'r Mwffti a lleil wedi wfftio efo'r ty Opera.  T'ydy hi ddim yn glir os ydy'r Mwffti wedi wfftio, achos dim ond ateb cwestiwn diniwed ar fater crefyddol oedd o, a deud y gwir d'oedd ganddo ddim lle wiglo ar y mater (petae o ddim wedi wfftio efo'r ty Opera) achos mae Islam yn reit glir am hyn.  Mae'na ddigonedd o flogwyr gwell na fi yn trafod y pwnc yn frwd yn y llefyd yma

Dhofari Gucci
Y Syrffiwr Linoliwm
Fforwm Oman


Tawaeth, dwi'n mwy o ddyn Acca Dacca na Cosi Fan Tutte, ond dwi'n gobeithio'n arw y gwna nhw ddechrau defnyddio'r lle fel theatr hefyd..

20 June 2010

Vroom Vroom Yallah !

C : Bedi'r gwahaniaeth rhwng gwerthwr tai yn Dubai a cholomen ?

A : Mae'r colomen dal yn gallu rhoi deposit ar BMW newydd....

14 April 2010

Man Bwyta Oman #1 - Bwyty Ar Y Traeth, Y Chedi

O'r diwedd, wedi ffendio bwyty yn Muscat sy'n gwir haeddu'r disgrifiad "o safon". Nid fod yna ddiffyg o lefydd bwyta mwynhaol iawn yn y ddinas, ond hwn ydy'r cyntaf i mi ffendio sy'n haeddu cwsmeriaeth ar noson ddathlu arbennig go iawn, yn hytrach na dim ond mynd am fwyd.

Y Bwyty ar y Traeth yng ngwesty's Chedi, yn ardal Ghubra.

Mae'n rhaid cerdded drwy'r gwesty a'i erddi i gyrraedd y lan mor. Mae hwn yn bleser ynddo ei hun, gyda chrandrwydd distaw y gerddi, y pwll gyda'i gabanau gorffwys a'r goleadau isel ar y llwybr yn ymlacio fy nhymer yn braf cyn cyrraedd y traeth. R'oeddwn yn barod am aperitif oer i leddfu'r tymheredd arabaidd a'r lleithder canolig yn dod o ddyfroedd bas y gulf. Mi ddewisiwyd wydr o Prosecco i ddechrau, a'r peth gorau amdano oedd y ffaith ei fod mor oer. Ddim byd o'i le efo fo, ond dim byd yn neilltuol amdano chwaith - a mi fyddaf yn edrych am rywbeth 'pyn bach yn arbennig tro nesa, gan gysidro pris y Prosecco (prisiau ar waelod y post). Tawaeth, mi dderbyniom y gwydrau yn ddiolchgar iawn, a mi gafom fwrdd ar flaen y dec agosaf at y traeth.

R'oeddan ni wedi bwcio bwrdd ar gyfer nos Sul (noson wythnos yma yn Oman) ers nos Iau..ond pan gyrrhaeddom d'oedd'na ddim bwciad wedi ei wneud. D'ydy hyn ddim yn anarferol yn y dwyrain canol, wedyn gwnewch yn siwr i ffonio ymlaen i gadarnhau y bwciad rhag ofn i chi ffendio eich hun heb le ag yn gwnebu llog tacsi drudfawr i fwyty arall.

Dwi'n falch fod y ffasiwn am bob mathau o ewynnau a mousse ar ein platiau wedi pasio erbyn hyn. Dwi'm yn 'supertaster' wedyn dwi'n deall fod rhai yn eu mwynhau, ond d'oeddan nhw ddim ond past heb flas i mi. Dwi llawn mor falch bo'r ymarfer o roi glasiad bychan o gawl i llnau y ceg yn parhau. R'oedd y cawl tuna ffres yn ddechreuad braf iawn i'r noson, ag yn lleddfu'r chwant bwyd mymryn bach. R'oedd hyn yn rhoi amser i'r gegin i goginio'r cwrs cyntaf heb ruthr, a ninnau yn cael amswer i ddarllen y dweislen gwin maith.

Mi ddechreuwyd efo Sgolop Tempura a Misglen (Mussels) wedi eu stemio mewn hufen chenin blanc. R'oedd y ddau yn berffaith, y misglenion yn fawr, brau a heb grit. Efo sgwp o'r hufen yn syth allan o'r gragen, r'oedd y blas yn hyfryd - yn ddigon pysgodig i fod yn flasus ond ddim yn blasu fel pysgodyn olewog o gwbl. R'oedd y sgolop yn frau a'r cytew (batter) yn gras, ag eto ddim yn blasu'n rhy olewog.

Wedi mwynhau y cwrs cyntaf mi ddewisiom botel o chardonnay Alamos 2008, o'r Ariannin. Mi gysidrais beidio ei brynu, gan fod arweinwyr y wlad yn trio dwyn Ynysoedd y Falkland, ond mae eisiau cadw pen call am y pethau'ma a r'oeddwn yn falch pan flasais y gwin. Yn union y math o win dwi'n licio - corff hanner-llawn, crwn, melyster canolig a blas mel. R'oedd o'n ddrud - 26R - ond fel treat arbennig d'oedd o ddim yn siomi. Mor aml mae potel ddrud mewn bwyty yn blasu mwy neu lai fel potel pumpunt o'r offi, ond nid y tro yma. Fel arfer dwi'n yfed Malambo -cymysgedd chardonnay / chenin blanc o'r Ariannin - am tua hanner y pris, ond r'oedd yr Alamos yn werth y gwahaniaeth.

Dewisiom y fillet o Rouget (snapper coch lleol) a Dover Sole fel ail gwrs, a r'oedd y ddau yn hyfryd. Toddi yn y ceg - mae rhai o fwytai drud Muscat dan yr argraff fo slapio rhyw-rhyw bysgodyn ar grill a'i alw'n Hammour (7R+) neu 'fish' (7R-) yn ddigon da, ond nid yn y Chedi. Y pysgodyn gorau gefais yn y dwyrain canol, a mae hynna'n cynnwys Pier Chic yn Dubai, sydd yn ddychrynllyd o ddrud.

Mi gawsom runner beans blasus iawn efo darnau bychain o gnau ynddynt, a 'Paris Mash', sef tatws mash efo olew truffle. R'oedd y mash yn blasu fel mash cyffredin, bach yn sych, a ddim cystal a'r mash sydd ar gael yn Darcy's Cafe yn Shatti am chwarter y pris.

Dwi'm yn cael denig o nghwt i lefydd fel hyn yn aml wedyn mi fues yn farus a chael Parfait Gwiniolen (Maple) i orffen, efo hufen ia bendigedig. Mi adewais y gwesty efo bol 3mis a'r bil isod, sy'n fy ngweld yn ol yn fy nghwt am fwy o amser na hoffwn gyfaddef, i'w gyfiawnhau.

Prosecco - 5.5R £9.18 y gwydr
Sgolop Tempura 9.5R £15.86
Misglen wedi eu Stemio 8.0R £13.36
Rouget Fillet 13.5R £22.54
Dover Sole 16.5R £27.55
Ffa a Paris Mash 4.5R £7.51 yr un
Parfait Gwiniolen 5.5R £9.18
Dwr 'Voss' 2.9R £4.84

Mi ddaeth y bil i 120R, sef £200.40 cyfradd heddiw - mae gwestai 5* Oman yn codi 17.5% treth twristiaid.
Mi fysa'r ddau ail gwrs yn unig, efo glasiad o win yr un, wedi dod i 35R, sef £68.97

21 March 2010

27 November 2009

Eid Mubarak...

....i bawb :-)

3 October 2009

Caeth I Arfer ?

Postiad diddorol iawn ar bwnc caethwasanaeth yn Oman ar flog Reality In Oman. Mae caethwasanaeth yn rhywbeth sydd wedi parahau tan ym gymharol ddiweddar yng ngwledydd y dwyrain canol, gyda Saudi Arabia yn ei roi ar herw yn 1962 ag yma yn Oman yn 1970. Dim ond 39 mlynedd yn ol r'oedd caethwasanaeth yn arferiad gwbl cyffredin yma - sy'n golygu fod nifer fawr o oedolion Omani heddiw wedi eu magu mewn tai efo caethweision - nid gweision tlawd ar dal bychan, na gweision o wledydd eraill wedi eu rhwymo i ddyledion mawr a tal isel (arfer cyffredin iawn yma hyd heddiw), ond gweision gwbl gaeth, yn berchen i rhywun ! Mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi synnu fod yr arfer yma wedi para tan mor ddiweddar yma y Oman.

Yn ddiweddar mae Bahrain a'r UAE wedi gwneud symudiadau tuag at ehangu rhyddid gweithwyr sydd wedi eu rhwymo i un sponsor - fel pawb sydd yma ar visa gwaith, fel fi - felly mae pethau wedi symud yn bell iawn ers y chwedegau, ag yn parhau i newid alhamdulillah.

27 May 2009

Dial Yn Dubai

Mae Dubai yn le hawdd iawn i anghofio eich bod mewn gwlad gwbl wahanol, o ran ei moesau rhywiol, na Prydain. Mae'n edrych fel lle modern, mae merched o'r gorllewin yn gwisgo yno fel petaent ar y promenade yn Llandudno ar ddiwrnod o haf, mae'r clybiau llawn totty golygus a mae bobdim ar gael. T'ydy o ddim yn rhyfedd o gwbl fod yna orllewinwr bob hyn a hyn yn anghofio nad ydyw yn Magaluf neu Ibiza, ac yn ennill ticed adre, do not pass Go do not collect £200.
Achos wahanol iawn sydd wedi dod i'r amlwg y wythnos yma - Prydeiniwr yn defnyddio'r cyfreithiau llym i ddial yn ddifrifol ar ei wraig anffyddlon a'i chariad. Dychmygwch gadael eich ystafell gwesty i ddarganfod y cops tu allan i'r drws ! Tybed sut fedr y dyn aros yn Dubai ym mysg ei gyd-genedlaetholwyr wedi gwneud y fath beth ? A tybed be mae o'n dychmygu ddigwyddith rhyngtho a'r cariad, neu deulu'r cariad, neu deulu y wraig druan, yn y dyfodol - fysa chi'n dial ar rhywun am eich rhoi yn y clinc am flwyddyn am fymryn o slap & tickle diniwed ?
Cofiwch fihafio os ddowch drosodd i'r dwyrain canol bobol ! Nid Abertawe ar nos Sadwrn ydy o, er fod Dubai yn edrych reit debyg ar adegau...
Y stori yn y Times YMA
Ac ar y blog Secret Dubai YMA

10 November 2008

Digryndod

Tachwedd 10ed 2008 11:50
Newydd fod yn gwneud cryn dipyn o waith ar ffilmiau cartref yn ddiweddar, ag yn meddwl y byswn i'n blogio am Deshaker. Filter ar gyfer VirtualDub ydy Deshaker, sydd yn digrynu fideo drwy gymharu ffram efo'i ffram olynol a dilynol, a'i symud os oes cryndod. Mae'r canlyniadau yn gallu gwneud y gwahaniaeth rhwng fideo na all ei ddefnyddio a rhediad deniadol iawn. Wele'r wraig yn sgio - mae'r fideo gwreiddiol mor grynedig na all ei wylio heb gael cur yn y pen..

Mae VirtualDub ar gael YMA
A Deshaker YMA

30 September 2008

Bron Wadi Bani

Gorffenaf 10ed 21:20
Dyma beth wnes i ddysgu dros benwythnos yng Ngorffenaf pan aethom am ddreif a camp yn y mynyddoedd Hajjar o Wadi Bani Khalid drwy Jaylah i Fins
  • Paid a mynd i le nofio poblogaidd ar y penwythnos os na ti'n barod i'r missus orfod nofio o flaen cynulleidfa o gant o hogiau ifanc yn rhythu fel llouau (oedd, mi oedd hi wedi gorchuddio)
  • Os ti'n gyrru dy injan yn galed yn y ger 4x4 isel (fel pan ti'n dringo llwybr mynydd serth iawn, er enghraifft) a ti'n clywed gwich uchel yn dod o'r cefn, stopia dy gar. Os di'r gwich dal yna, doro dy ben wrth y tanc petrol a gwranda. Os ti'n clwad twrw berwi, stopia'r injan a gwna'n siwr fod pawb arall (Ynh enwedig y smocars) wynt-i-fyny o'r car. Disgwylia i'r petrol orffen berwi, agora'r cap (yn ofalus iawn, a paid a sefyll o'i flaen rhag i ti gael trochfa petrol pan saethith y cap allan achos o'r pwysedd yn y tanc) a'r drysau i gael gwared o'r nwy. Gofynna i dy hun os oes'na ddigon o wynt iddo fod wedi clirio'r nwy cyn i ti ail-ddechrau'r car
  • Paid a gor-yrru 4x4 yn y ger isel.
  • Paid a gyrru 4x4 cocsho (Ford Explorer), yn enwedig un cachu rwtch sydd yn gwario mwy o amser yn y garej nag allan (fy un i)

18 June 2007

Ffigyrau Cylchdro #1

Mehefin 18ed 15:58
Stori ddiddorol sy'n berthnasol i sefyllfa'r Gymraeg ar flog 'rhyddid' QandO. Dwi wastad yn synnu faint o bobl Cymraeg (neu bobl yng Nhymru) sy'n glynud i'r syniad o undod efo Lloegr heb gymryd amser i gysidro o ddifri pam fo Lloegr yn cadw Cymru yn ran ohono, a pham fo'r diwylliant Cymraeg yn chwarae rhan mor fychan o fywyd diwylliannol Prydain. Pwy yn Lloegr fysa ar eu ennill i hybu'r Gymraeg ? Pryd wneith pobl Cymru sylweddoli nad yw Prydain eisiau i Gymru lwyddo ? Cliciwch yma.

5 June 2007

Rhedeg Rhag Y Tornedos...

Mehefin 6ed 11:50
Mae cwmni olew Oman newydd orchymyn i bawb roi'r gorau i'r gwaith a mynd yn syth i'r gwersyll i lechu rhag Seiclon Gonu. Da ni'n disgwyl gwyntoedd 150mph+. Croeswch eich bysedd !

31 May 2007

Ceunantu ?

Mai 26ed 04:35
Hwyl a sbri - dwy awr o ddringo a neidio i byllau dyfn yng Ngheunant Y Neidr ger Zammah.

G 23°12'28.27" D 57°23'41.55"

26 May 2007

Pry Cop

Mai 26ed 04:35
R'oedd y cradur yma yn disgwyl i'm croeso wrth i mi godi i fynd i'r gwaith rhyw dair noson yn ol. Yn ffodus roeddwn yn gwisgo sgidiau cap-bodiau dur, ddim sandals, a chafodd o ddim gwneud pryd sydyn o'm un o'm bodiau efo'i dau ddant mawr.

Dwi'm yn siwr os ydy ei ymddygiad yn arferol....fel arfer maent yn ofnus o olau ond roedd hwn i'w weld yn reit ddryslyd....bosib ei fod wedi buta darn o chicken curry o'r bins ag ei fod yn troi arno...

Dyma lun agos o'r cradur.

Dyma fo dudalen y diawl hyll ar wikipedia.

6 March 2007

Cambrian Clebran

Mawrth 6ed 14:35

Bendith gwyrthiol newydd i mi diolch i'r rhyngwe drydan - Radio Cymru a Radio Pedwar ar gael yn fyw ddydd a nos ! :-) Mi faswn wedi bod yn falch iawn o hwn tra bywiais yn Lloegr. Dwi'n gaddo d'oes gen i ddim byd o gwbl i wneud efo'r cwmni - mae'n cysylltu mewn chwinc dros wi-fi a mae'r sain yn dda i gysidro mai ffrwd real mae'n ddefnyddio. OK dwi'n gwybod fod unrhyw gyfrifiadur yn gallu gwneud r'un peth, ond mae'n braf gallu taro un botwm amser brecwast a mynd yn syth at y coffi a wyau heb orfod ffwdan efo laptop.

4 March 2007

Cludda

Mawrth 3ydd 15:55
Distaw yn Oman ? Twt lol sut fedrwn fod wedi anghofio rhediad Dydd Gwyl Dewi y Bytheiwyr Ty Stwnsh ! Pot o sgows fawr i lenwi boliau bawb ar ol y cylch - wele www.omanshash.com

Pwniad

Mawrth 3ydd 14:50
Mi dderbyniais bwniad poleit yn ddiweddar - fel y pyped John Gielgud ar Spitting Image ers talwm - ar bwnc y blog yma, a digon teg hefyd. Ond diawl bobol mai'n ddistaw yn Oman'ma. Y stori fawr mis yma ydy fod Jim Davidson wedi bod yn ymddangos mewn gwesty lleol (I kid u not). Ond dyna fo - ddim nadu a puo cosmopolitan yw atyniad Oman....

23 November 2006

Newyddion Jadeed

Tachwedd 23ed 22:52
Al-Jazeera Yn Saesneg
Lot o obaith yma yn Oman y bydd y darllediad o Al Jazeera yn Saesneg yn hybu dealltwriaeth o'r byd Arabaidd yn y Gorllewin......gawn weld.

27 July 2006

Lle Mae Matt ?

Mehefin 29ed 12:58
Gwych

29 June 2006

Manama 90210

Mehefin 29ed 12:58
Newydd ddarganfod hwn sef ffilm deledu American am US Marine a tywysoges Bahraini a redodd ymaith i'r US i briodi. Hilarious. Mynyddoedd mawrion a choed gwyrdd ymhobman !

20 April 2006

Sosialaeth i'r Bos, Rhyddfarchnadaeth i'r Gwas

Ebrill 20ed 08:18
Beth sydd o'i le efo'r erthygl hwn ?

Diddorol fod swyddog HR mewn diwydiant hollol wrth-undeb yn galw am fwy o gydweithio rhwng y cyflogwyr....synnwn os nad yw hyn yn gwbl yn erbyn y gyfraith mewn nifer o wledydd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau a Chanada. Hoffwn glywed ei hymateb petae'r gweithwyr yn dechrau defnyddio "collaborative approach".....

28 February 2006

Athroniaeth AD Newydd ?

Chwefror 28ed 19:07
Oes'na rhywun sy'n gweithio yn AD ('Adnoddau Dynol', h.y. HR ia, neu 'ei-di') all ddweud wrthaf os oes'na athroniaeth newydd yn ymddangos yn y 'professiwn' sy'n deud y dylia chi gynnig llai o arian i bobl da chi'n drio gyflogi na mae nhw'n gael yn barod ?
Mi wastraffodd y Mrs brynhawn cyfan yn rwdlan efo rhywun oedd eisiau ei chyflogi am un chwarter be mai'n ennill yn barod, cyn dweud OK mi fysa fo'n cysidro hanner. Am yr un gwaith yn union. Mi gefais innau gynnig rhyw 10% llai na be dwi'n neud rwan, efo'r posibilrwydd o symud i Qatar (sydd dipyn llymach na Bahrain groesawus) mewn ryw naw mis am 10% yn llai eto. O ia ag ella fysa'r Mrs ddim yn cael gweithio yno. Be sy'n mynd drwy meddyliau'r pobl'ma ? Ydy nhw'n meddwl ein bod yn palu clwydda ?

21 February 2006

Bawd Allan

Chwefror 21ed 19:07
Mae bawd Radio Cymru hanner ffordd allan o'u pen-ol - mae nhw wedi cyflwyno eu podlediad cyntaf ! Wele'r erthygl yma.

Cywiriad

Chwefror 21ed 17:40
Mi sgwennais rai misoedd yn ol na fysa sgiio yn Dubai fel sgiio ar fynydd go iawn - we r'on i'n hollol rong bois. Mae o'n union fel sgiio ar fynydd go iawn ar eira go iawn. Mynydd bychan efallai, a dim gwin poeth yn y caffi ar ganol y rhediad, ond fel sgiio go iawn ym mhob ffordd arall. Teimlad od iawn wedyn ydy tynnu'r dillad cynnes yn yr awyrgylch oer (-5°C) tu fewn i'r adeilad i wisgo shorts a crys-t.
Gallaf argymell skiDubai ar gyfer rhywun sydd yn byw yn Dubai ac eisiau dysgu - mae'n ddelfrydol i hynny - ond wneith mond gadw diddordeb sgiwr/wrag brofiadol am ryw awran.

21 January 2006

Democratiaeth Frenhinol

Ionawr 21ed 11:46
Erthygl ddiddorol am rym y we i hybu trafodaeth gwleidyddol yn y dwyrain canol. Mae hefyd yn rhoi cefndir fras i strwythur gwleidyddol Bahrain. Da ni wedi gweld cryn dipyn o dwrw yma yn ddiweddar, rhywbeth sy'n tueddu o godi o dro i dro achos o'r tynfa rhwng y Sunni a Shia ar yr ynys.

15 January 2006

Dim Damwain Heddiw, Inshallah

Ionawr 15ed 23:43
Stori drist iawn o flog Mr Mahmood, yn goleubwyntio unwaith eto - fel petae angen - y safon warthus o ddreifio a diogelwch drafnidiaeth drwy'r dwyrain canol. Nid ymosodiadau derfysgol yw'r perygl mwyaf yn y gwledydd yma, ond y damweiniau erchyll dyddiol ar y ffyrdd.
Peth od iawn hefyd, i gysidro fod y diwylliant arabiadd yn gwerthfawrogi teulu gymaint, a meibion yn enwedig. Y cliche mae rhywun yn glywed yn y cylchoedd expat yw bod y moslemiaid yn dreifio heb unrhyw barch at ddiogelwch am eu bod yn credu y gwnaiff Allah eu hamddiffyn. Ond lol ydy hyn - mae'r safonau dreifio yn gryn gwell yn Bahrain nag yn Saudi Arabia, ac yn dda iawn yn Oman. Peth diwylliannol ydy o, nid crefyddol.

26 November 2005

Flickr Anweddus !

Tachwedd 26ed 14:19
T'ydy Etisalat - cwmni telecoms y UAE - ddim yn licio flickr.com ! Yn eu geiriau nhw, t'ydy o ddim yn gyfatebol efo diwylliant a moesau y wlad, wedyn dwi'n cael sgrin rybudd am drio mynd yno.
So dyma lun o fynyddoedd hardd Nant Ffrancon.....

Y Taflbod Cyntaf ?

Tachwedd 26ed 13:53
Dwi'n cicio fy sodlau o gwmpas Abu Dhabi yn disgwyl i fynd i fewn i'r anialwch, a mi benderfynais fanteisio ar gyswllt rhyngrwyd cyflym Starbucks i lenwi'r gliniadur efo gymaint o bodcastiau (daflbodiau ? darlledbodion ?) ag y gallwn ar gyfer y nosweithiau hir - yn bennaf Radio 4, World Service a Mark Kermode yn puo am ffilms. Ond wele !! Cysylltiad newydd arall efo'r hen wlad a diwylliant - Graffiti Cymraeg - onid hwn yw y taflbod Cymraeg cyntaf !?
Mae'n debyg fod Cymry adref yn anymwybodol ar y mwyaf o ba mor anodd yw i gadw cysylltiad efo'r diwylliant Cymraeg unwaith mae rhywun tu allan i Gymru - ond mae'r sefyllfa yn gwella bron yn ddyddiol. Pan symudais i Loegr yn 1987 d'oedd DIM o'r diwylliant Gymraeg i'w gael tu allan i Gymru. Dim S4C o gwbl, a dim Radio Cymru. Mae pob datblygiad newydd fel Graffiti Cymraeg yn dod ag expats fel fi mewn cysylltiad a rhan o'n diwylliant fysa ni byth yn ei brofi ffordd arall.
So pryd ma Radio Cymru am dynnu eu bys allan 'dwch ?

13 November 2005

Crefydd a Llywodraeth

Tachwedd 13ed 15:26
Datblygiadau diddorol yma yn Bahrain dros yr wythnos diwethaf, mewn mater sydd - fel y rhan helaeth o faterion cymdeithasol yn y rhan yma o'r byd - yn ymglymu a chrefydd, gwleidyddiaeth, rhyddid a hawliau dynol. Mae llywodraeth Bahrain yn bwriadu deddfu cyfraith teuluol, sef cyfraith bydol a fydd yn rheoli materion rhwng aelodau teuluol megis ysgariad, cynhaliaeth plant, camdriniaeth yn y cartref ac yn y blaen. Yn draddodiadol mae'r materion yma wedi cael eu penderfynnu mewn llysoedd sharia, sef cyfraith Islamaidd.
Dadl yr ochr o blaid cyfraith bydol yw fod y barnwyr sharia yn afreolaidd ac yn wrth-fenywaidd. Dadl yr ochr o blaid cyfraith sharia yw fod cyfraith bydol yn disodli cyfraith Duw, ac felly yn annerbyniol. Mae'r ddadl wedi stolio rhywfaint ar hyn o bryd gan fod manylion y bwriad gyfraith yn anghlir - digon posib bydd y cyfreithiau yn eistedd y dda wrth ochr cyfreithau sharia - ond mae'na ddigonedd o farn a theimlad cryf ar y ddau ochr.
Mae'na fwy o fanylion ar y pwnc, a lluniau, yn y fan hyn... ac yn y fan hyn...

9 November 2005

Dod A'r Mynydd i'r Moslemiaid

Tachwedd 9ed 17:58
Cyn bo hir mi fydd un o anfanteision byw yn y dwyrain canol - dim sgiio - yn diflannu, a mi fyddan i gyd yn rhuthro undorf i fwynhau newid tymheredd o ryw 35-40°C. Mae'r adeilad ar y lon rhwng Dubai ac Abu Dhabi, ac wedi ei basio yn y car ambell dro mi ddwedaf ei fod yn ymddangos gryn mwy na'r argraff cewch o'r lluniau ar y safwe. Wele www.skidubai.com Wrth gwrs fydd o ddim fel sgiio ar fynydd go iawn, ond d'oes'na ddim llawer o lefydd yn y byd lle cewch sgiio yn y bore (ar eira da, dim slysh na rhew) a ffrio ar lilo yn y pwll drwy'r prynhawn. Mi fydd rhaid i'r hogia lleol wisgo thobes tywyll rhag ofn iddynt fynd ar goll..
Stori BBC yn y fan hyn

2 November 2005

Cwsg y Bodlon

Tachwedd 2ail 03:51
D'oes dim mae Mrs Blewyn yn ei fwynhau gystal a bol llawn o fwyd da, a cŵsg ar ei ôl. Y diwrnod o'r blaen mi gafodd y ddau, pan fuom yn ddigon ffodus i gael bwrdd yn y Bull yn Beaumaris yn reit hwyr, ar ôl diwrnod yn trampio o gwmpas Dulyn. Chwarae teg iddynt mi wnaethon nhw aros yn agored yn hwyr ar ol i ni ffonio o Gaergybi ac erfyn arnynt i'n bwydo, a balch o'n i am hynny achos mae'r Bull yn fwyty odidog, heb ei ail yn yr ardal yn fy marn i. Mae'r prisiau yn reit anaml hefyd, tu allan i ganol Llundain, ond bois bach mae'n rhaid mwynhau rhywbeth sy'n werth ei gael bob hyn a hyn d'oes. Iw cant tek it with iw ia. Erbyn hyn da ni nol yn Bahrain, yn mwynhau Eid - mi geith y Mrs 4 diwrnod o'r gwaith a mi geith y pybs ailagor ar ol mis o syched. :-)

1 October 2005

Tois

Hydref 1af 22:35
Asu, mae'n rhaid fy mod yn heneiddio - neu mi faswn wedi sylwi ar y teclyn newydd yma ymhell cyn heddiw...

7 September 2005

Oman Golygus

Medi 7ed 01:14
Mae Oman yn wlad golygus iawn iawn, a'r pobl yn glen. Maent yn cymryd eu hetifeddiaeth o ddifri, ac yn ymdrechu i adeiladu adeiladau sydd yn adlewyrchu eu bod yn gwerthfawrogi eu hetifeddiaeth aú hamgylfchfyd. Trueni yw gweld gwlad sydd wedi gadael i'w busneswyr wneud llanast o'r lle gydag adeiladu rhemp a hyll. Dyma lun o dŵr dŵr Ibri.

Mmmm Blasus...

Medi 7ed 01:06
Blas debyg iawn i laeth gafr.....braf iawn ar ol diwrnod o waith chwysdoman !

8 August 2005

Laura Ashley Bahrain

Awst 8ed 13:06
Siop ffasiynol i ferched yn Sitra.......












7 August 2005

Mwncwns

Awst 7ed 2005
Perl y mysg y gwastraff ! Newid braf o'r amryw o straeon erchyll am ddamweiniau marwol yma yn Bahrain yr wythnos hon - a mae'n amlwg fod y gohebydd wedi mwynhau ei ysgrifennu yn fawr iawn. I'w ddarllen ar ol dau neu dri o rai oer o'r rhewgell.....Yma
Mehefin 2ed 2007
Trueni, t'ydy'r cysylltiad ddim yn gweithio bellach. Stori ydoedd am fwnci wedi denig o sw yn Bahrain a chael ei ddarganfod mewn car. Cyhuddwyd dreifar y car o ddwyn y mwnci ond dadleuodd o mai wedi cuddio yn y cefn oedd y mwnci nid cael ei ddwyn.

31 July 2005

Safonau Moesol a Chobannau

31 Gorffenaf 2005
Nid yw'r gwrthdaro ac adwethio rhwng y dwyrain a'r gorllewin i'w weld yn gliriach nac yma yn y dwyrain canol. Dwi'n eistedd yn Starbucks yn y Marina Mall yn Abu Dhabi. I fyny'r grisiau mae'na siop dillad merched lleol yn gwerthu be faswn innau yn galw yn gobannau crand iawn. I'w gwisgo yn y ty - allan o olwg dynion diarth, mae'r cobannau yn ymestyn o'r garddwn i'r traed, ond mae'r gwyneb a gwallt i'w weld yn glir. Mae nhw'n grand iawn ac yn fri o batrymau o gwmpas y gwddf a garddwn. Yn ffenestr y siop mae'na ffoto mawr o ddynes brydferth yn gwisgo'r dilledyn yma, gwyneb a gwallt ar ddangos. Mae'r merched sydd yn prynu yno yn tueddu i fod yn ferched sy'n o leiaf gwisgo abaya llawn a scarf gwallt, a ran amlaf yn gwisgo veil hefyd, fel mai dim ond y llygaid sydd ar ddangos. Mae rhai hyd yn oed yn gwisgo veil llawn dros y llygaid - defnydd du tenau sy'n gadael rhywfaint o olau drwyddo, mae'n debyg ei fod fel gwisgo sbectol haul. Y peth sy'n dangos yr adwaith rhwng gorllewin a dwyrain yw hyn - os nad ydy hi'n OK i'r merched sy'n siopa ddangos eu gwallt a gwynebau, sut fedr ei fod yn OK i'r ferch yn y llun gael ei dangos felly i bawb sy'n cerdded heibio ?

27 July 2005

Amser Cinio

27 Gorffenaf 2005 15:54
Mae'n rhaid cymryd y smwdd efo'r ruff weithiau........












A dyma'r ruff - coblyn o dwrw ddydd a nos. Llu o Indiaid a Pakistanis a Bangladeshis yn dyrnu gweithio yma am ddwy flynedd ar y tro, ymhob tywydd (mae hi'n 45°C heddiw), am rhyw ddau gan punt y mis. Mae'n rhaid gen i fod y swm yna yn prynu gryn dipyn yn ol un eu gwledydd nhw. Mae'r gwledydd ar yr arfordir dwyreiniol o'r Peninsula Arabaidd i gyd yn adeiladu fel diawled, wedi llwyddiant Dubai. Ugain mlynedd yn ol r'oedd yr holl dir yn y llun yma (ac o dan fy fflat i) dan y dwr - mae nhw'n adenill tir newydd yn y moroedd bas o gwmpas Bahrain er mwyn adeiladu fflatiau a thai, yn cynnwys rhai i'w gwerthu i bobl dramor. Wele www.ossisonline.com

Aggro

Hmm....mae'r milwyr American yma i gyd o dan ordors i lechu yn eu ystafelloedd a pheidio mynd allan....gobeithio di nhw ddim yn gwybod rhywbeth da ni ddim....