31 July 2005

Safonau Moesol a Chobannau

31 Gorffenaf 2005
Nid yw'r gwrthdaro ac adwethio rhwng y dwyrain a'r gorllewin i'w weld yn gliriach nac yma yn y dwyrain canol. Dwi'n eistedd yn Starbucks yn y Marina Mall yn Abu Dhabi. I fyny'r grisiau mae'na siop dillad merched lleol yn gwerthu be faswn innau yn galw yn gobannau crand iawn. I'w gwisgo yn y ty - allan o olwg dynion diarth, mae'r cobannau yn ymestyn o'r garddwn i'r traed, ond mae'r gwyneb a gwallt i'w weld yn glir. Mae nhw'n grand iawn ac yn fri o batrymau o gwmpas y gwddf a garddwn. Yn ffenestr y siop mae'na ffoto mawr o ddynes brydferth yn gwisgo'r dilledyn yma, gwyneb a gwallt ar ddangos. Mae'r merched sydd yn prynu yno yn tueddu i fod yn ferched sy'n o leiaf gwisgo abaya llawn a scarf gwallt, a ran amlaf yn gwisgo veil hefyd, fel mai dim ond y llygaid sydd ar ddangos. Mae rhai hyd yn oed yn gwisgo veil llawn dros y llygaid - defnydd du tenau sy'n gadael rhywfaint o olau drwyddo, mae'n debyg ei fod fel gwisgo sbectol haul. Y peth sy'n dangos yr adwaith rhwng gorllewin a dwyrain yw hyn - os nad ydy hi'n OK i'r merched sy'n siopa ddangos eu gwallt a gwynebau, sut fedr ei fod yn OK i'r ferch yn y llun gael ei dangos felly i bawb sy'n cerdded heibio ?

2 comments:

Anonymous said...

Ahlan wa-sahlan, yaa 'Bahraini'!

Da iawn i gael mewnbwn felly i'r Flogosphere Gymraeg - dal ati, dw i'n edrych ymlaen at glywed mwy gen ti.

Ma'a salaamah,

Aran

Blewyn said...

Shukran Habibi !