10 December 2011

Y Mwffti a Wfftiodd

Sbiwch crand




Ein ty Opera newydd :-), a roddwyd i'r genedl gan y Sultan allan o'i gronfeydd bersonol yn ol y deud yma yn Muscat.  Hwn ydy'r adeilad gyntaf yn Oman yn arbennig ar gyfer y celfyddydau berfformio (heb gyfri'r band Canadian sy'n chwarae yn y Safari Bar de).  Mae'r adeilad hon yn rhagflaenu oes newydd gelf a cherddoriaeth ar y Penrhyn Arabiadd, ag ers iddi agor mymryn fisoedd yn ol mae nhw wedi bod yn gwneud i fyny am y syched a fu.


Wele fan hyn am y rhaglen.


Ond....t'ydy pawb ddim yn hapus.  Mae'r Mwffti (debyg i Archiesgob) wedi deud fod rhaid i Foslemiaid aros oddiwrth y lle, gan nad yw cerddoriaeth na dawns yn ganiataol yn Islam.  Mae'na drafodaeth dyrys a brwd wrthi am hyn, efo rhai wedi wfftio efo'r Mwffti a lleil wedi wfftio efo'r ty Opera.  T'ydy hi ddim yn glir os ydy'r Mwffti wedi wfftio, achos dim ond ateb cwestiwn diniwed ar fater crefyddol oedd o, a deud y gwir d'oedd ganddo ddim lle wiglo ar y mater (petae o ddim wedi wfftio efo'r ty Opera) achos mae Islam yn reit glir am hyn.  Mae'na ddigonedd o flogwyr gwell na fi yn trafod y pwnc yn frwd yn y llefyd yma

Dhofari Gucci
Y Syrffiwr Linoliwm
Fforwm Oman


Tawaeth, dwi'n mwy o ddyn Acca Dacca na Cosi Fan Tutte, ond dwi'n gobeithio'n arw y gwna nhw ddechrau defnyddio'r lle fel theatr hefyd..

5 comments:

Rhys Wynne said...

Croeso'n ol. Mae'r dy gofnodion wastad yn ddifyr.

Blewyn said...

Duwadd ! Mae'na rhywun blaw fi yma :-) Diolch Rhys ti'n rhy garedig.

Rhys Wynne said...

Yn ffodus mae'r Blogiadur yn dal i ddilyn dy flog am ddiweddariadau. Gwyrth RSS.

Anonymous said...

Naw wfft i'r Mwffti a wfftiodd a ddywedaf fi, sef Dafydd Jones o Lanrwst !

Blewyn said...

Wel d'oedd'na ddim lle wiglo gan y dyn yn anffodus....digon bosib ei fod o blaid y peth yn breifat ynde...ond mae'r crefydd yn reit bendant ar y mater.