26 November 2005

Y Taflbod Cyntaf ?

Tachwedd 26ed 13:53
Dwi'n cicio fy sodlau o gwmpas Abu Dhabi yn disgwyl i fynd i fewn i'r anialwch, a mi benderfynais fanteisio ar gyswllt rhyngrwyd cyflym Starbucks i lenwi'r gliniadur efo gymaint o bodcastiau (daflbodiau ? darlledbodion ?) ag y gallwn ar gyfer y nosweithiau hir - yn bennaf Radio 4, World Service a Mark Kermode yn puo am ffilms. Ond wele !! Cysylltiad newydd arall efo'r hen wlad a diwylliant - Graffiti Cymraeg - onid hwn yw y taflbod Cymraeg cyntaf !?
Mae'n debyg fod Cymry adref yn anymwybodol ar y mwyaf o ba mor anodd yw i gadw cysylltiad efo'r diwylliant Cymraeg unwaith mae rhywun tu allan i Gymru - ond mae'r sefyllfa yn gwella bron yn ddyddiol. Pan symudais i Loegr yn 1987 d'oedd DIM o'r diwylliant Gymraeg i'w gael tu allan i Gymru. Dim S4C o gwbl, a dim Radio Cymru. Mae pob datblygiad newydd fel Graffiti Cymraeg yn dod ag expats fel fi mewn cysylltiad a rhan o'n diwylliant fysa ni byth yn ei brofi ffordd arall.
So pryd ma Radio Cymru am dynnu eu bys allan 'dwch ?

2 comments:

Dafydd Tomos said...

Mae dau neu dri podlediad Cymraeg ar gael nawr (a nifer o sioeau MP3 sydd ddim yn bodlediadau go iawn h.y. dim modd tanysgrifio drwy RSS). Dyma restr ohonynt.

Blewyn said...

Diolch Dafydd !