6 March 2007

Cambrian Clebran

Mawrth 6ed 14:35

Bendith gwyrthiol newydd i mi diolch i'r rhyngwe drydan - Radio Cymru a Radio Pedwar ar gael yn fyw ddydd a nos ! :-) Mi faswn wedi bod yn falch iawn o hwn tra bywiais yn Lloegr. Dwi'n gaddo d'oes gen i ddim byd o gwbl i wneud efo'r cwmni - mae'n cysylltu mewn chwinc dros wi-fi a mae'r sain yn dda i gysidro mai ffrwd real mae'n ddefnyddio. OK dwi'n gwybod fod unrhyw gyfrifiadur yn gallu gwneud r'un peth, ond mae'n braf gallu taro un botwm amser brecwast a mynd yn syth at y coffi a wyau heb orfod ffwdan efo laptop.

1 comment:

Linda said...

Handi iawn Blewyn. A ddim lot o wahaniaeth amser chwaith rhwng Cymru ac acw. Hywel a Nia a phaned o goffi..be fedrith fod yn well ;)