Pry Cop
Mai 26ed 04:35
R'oedd y cradur yma yn disgwyl i'm croeso wrth i mi godi i fynd i'r gwaith rhyw dair noson yn ol. Yn ffodus roeddwn yn gwisgo sgidiau cap-bodiau dur, ddim sandals, a chafodd o ddim gwneud pryd sydyn o'm un o'm bodiau efo'i dau ddant mawr.
4 comments:
Diddorol.
Dwi o hyd wedi sidro pam dy fod yn y Bahrain? Dwi'n cofio ti'n deud dy fod yn byw yn Norfolk (a'r Alban ar un adeg) ac yn gwybod na rhywbeth i wneud efo olew/petrochemicals.
Be yn union wyt ti'n neud allan yn fana?
Dwi yn Oman bellach Huw (ag yn methu Bahrain yn arw o ran bars a bwytai..). Tyllu am olew ydw i.
Wedi dod ar draws dy flog di bore 'ma ac wedi mwynhau darllen dy sylwadau. Dal ati!
Harri
Dioch Harri - ti o gwmpas yma yn rhywle ? (gweld dy enw uchod)
Post a Comment