5 June 2007

Rhedeg Rhag Y Tornedos...

Mehefin 6ed 11:50
Mae cwmni olew Oman newydd orchymyn i bawb roi'r gorau i'r gwaith a mynd yn syth i'r gwersyll i lechu rhag Seiclon Gonu. Da ni'n disgwyl gwyntoedd 150mph+. Croeswch eich bysedd !

3 comments:

Linda said...

Helo Blewyn ,
Gobeithio dy fod ti'n saff ar ôl y tornadoes.
Hafren yn poeni amdanat ar yr index...

Blewyn said...

Bobdim yn iawn diolch ! Mi gafon ni ddiwrnod o storm-dywod allan yn yr anialwch a mi lechodd y wraig yn saff yn Dubai. Gyda lwc mae'r ty yn Muscat ar ben bryn, wedyn mi gafodd ei beltio gan wynt a glaw, ond dim trochfa fel gafodd y tai islaw wrth y mor. Mae'r trydan wedi bod off ers i'r storm ddechrau, a mae'r tymheredd o gwmpas 45C yn nghanol y dydd. Mi fydd rais i'r wraig druan roi peg lein ar ei thrwyn i atal codi cyfog pan agorith y rhewgell !

Anonymous said...

Oes gen ti syniadau ar gyfer y Welsh Blog Awards 2007?