21 May 2013

Dim Bris Heddiw

Masalaama a G'day ! Dyma atgyfodi'r blog cysglyd yma ryw 11,000km i ffwrdd o'r post blaenorol, ar ol rhywbeth o newid byd :-) Mate.  Yeh, that'll be right.  Too easy !

Wedi gadael Arabia boeth ers 10 mis wan, ag yn mwynhau yn arw bod yn ol mewn gwlad lle mae rhywun yn gallu gwisgo cot Duffel heb chwysu i farwolaeth o fewn hanner awr.  Yma yn Queensland, mae'r tywydd a tymheredd y brafiaf dwi wedi weld erioed - ddim cweit mor boeth ag Oman yn y haf a ddim y agos at fod mor oer a Chymru yn y gaeaf.  Dwi'n gweithio heddiw allan yn y bush rhyw ddwyawr i'r gogledd o Roma.  Mae Roma chwech awr i'r gorllewin o Brisbane, a nid yn unig yw hyn dal i fod o fewn Queensland, t'ydy o ddim hyd yn oed yng Ngorllewin Queensland.  Mae'r wlad'ma yn FAWR.  Da ni yma ers 10 mis a heb grafu'r arwyneb hyd yn oed yn Brisbane heb son am weddill y stad neu'r wlad.  Ond dwi wedi taro Kangaroo efo'r ute a dwi wedi cyfarfod hogan o'r enw Kylie, wedyn mae hynna'n rhywbeth.

2 comments:

Rhys said...

Diolch i'r hen Blogiadur am roi gwybod bod yr hen flog yma wedi'i ddiweddaru.

Mae'n siwr bod gwahaniaeth mawr rhwng y ddwy wlad yn eu hagweddau tuag at y ddiod gadarn ond falle bod y ddwy rhywbeth tebyg pan mae'n dod i sefyllfa merched o fewn cymdeithas ;-)

Croeso'n ol.

Blewyn said...

Anheg ! Deud y gwir ti am gymharu sefyllfa merched mewn gwlad democrataidd fodern i'w sefyllfa mewn brenhiniaeth arabaidd ? Tyd wan ti'n gwybod mai caricature ydy'r cymeriad ocker go iawn yndwyt ?